Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

.* Rhif. V.] [Mai 1, 1877 DALEN GENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITHAS ER SLEDAENUR EFENGYL. YSGOLFEISTRES KAFFIR. CENHADAETH ST. MARC, TRANSKEI. Cenhadaeth St. Marc yw'r henaf a fedd y G. Ll. E. yn Kaffraria Annibynol. Mae lláwer o'r brodorion etto yn baganiaid, ond y mae lliaws a breswyliant yn gyfagos i St. Marc wedi troi yn Gristionogion. Ceir yma un Gwr Eglurysig o Brydeinwr, gyd â'i wraig a merch, dau glerigwr brodorol, saith ysgolfeistr ag ydynt hefyd yn gateceiswyr, a saith o ysgolfeistresau, y rhai, er nas gallant gyíiawni yr un gwaith a'r cateceiswyr, ydynt yn llawn mor wasanaethgar yn eu ffordd eu hun. Ceir arlun o un o honynt uwehhen; ac ymdrechwn roddi rhyn gymmaint o'i hanes. Bum neu chwe mlynedd ar hugain yn ol, pan anwyd Damaris, yr oedd St. Marc yn lle pur wahanol i'r hyn ydyw yn bresennol. Ceid yno yr un bryniau isel a chrwn, gwyrddlas yn yr haf, ac wedi eu llosgi yn rhuddgoch yn y tymmor sych neu auafol. Ond yr oedd y clwsterau o fythynod fcafìr, Jcraals fel y gelwir hwy, yn fuy gwasgaredig; ac yr oeddynt yn llai eu maintioli ac yn futrach nag y gellwch ddirnad, tra yr oedd y bobl a breswyliant ynddynt yn anwariaid noeth, wedi eu lliwio â chlai coch, ac yn gorchuddio eu hunain â chrwyn neu wrthbanau. Treuliai tad Damaris ei amser mewn ymladd ac edrych ar ol ei anifeiliaid. Pan yn myned i ryfel, gwthiai nifer o blu i'w wallt gwlanog, yr hwn a wneid i dyfn fel math o turban, trwy i'r dyn roddi cylch o gwmpas ei ben. Lliwiai ei wyneb â'r clai yn llinellau gwynion, cochion, a duon, er mwyn rhoddi golwg ddychrynadury arno ei hunaD. E/hoddai drosto ei hun glôg wedi ei gwneuthur o gvwjnjaclcal neu yeh ieuangc hardd. Cymmerai yn ei law ddyrnaid o waen-ffyn byrion a elwid assegais ; ac wedi gwisgo am dano ä'i allan, gan feddylied ei hun yn rhyn un enwcg; ac yn ei ffordd ei hun hwyrach ei fod felly. Gweithiai ei wraig yn galed truy gydol y dydd, wrth balu, planu, a chwynu. Gwisgai hi bais neu arffedog ddeublyg o groen gafr, clôg o wrthban neu groen buwch; ac yr oedd hithau hefyd yn dwbio y clai coch ar ei gwallt a'i gwyneb.