Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

*: Rhif. VIII.] [Ghwefeob, 1878. DALEN GENHADOL CHWAETEROL Y GYMDEITHÁS EB ÌLEDÁENÜ YB EFENGY& TY A GWELY INDIAIDD BRODO'ROL AR GANOÍ, DYDÌ>. AMDDIEAID Y NEWYN. Yn ydym yn ddiweddar wedi clywed llawer am y Newyn Indiaidd, ac y mae llîaws o honom wedi ymuno mewn diolch i Dduw fod y gwlawogydd hydrefol yn awr wedi disgyn yn Neheubarth India, ac y gallwn Abeithio y bydd i gnydau toreithiog fod yn barod i lawenychu calonnau ein brod^fctlodion Hindwaidd yno. Gall rhai o honyut mae'n wir fod yn alluog i lawenychu ynÿrhagolwg am ddigonedd; ond nid yr oll. Yr oedd lliaws mae'n wir yn cael ymborth a gwaíth yn y Gwersylloedd Cynnorthwyol, ond arosodd llawer yn eu óartrefydd, yn bwytta yr oll a feddent—eu grawn hadyd, eu hychain aredig, y gwellt, chwyiì, gwreiddiau, a'r aeron ar ochrau y ífyrdd, a hyd yn oed y dail sychion a ddefnyddid i doi eu bythynod, nes yr oeddynt wedi myned yn ddim amgen na sìceletons ac wedi eu gwueuthur yn wan gan afiechyd, fel nas gallent ymlusgo i'r lle y rhennid lluniaeth, ac os cyrhaeddent yno yn fyw byddent mor afiach' fel nas gallai hyd yn oed bwyd maethlawn achub eu bywyclau. Er gwaethaf pob gofal a gymmerwyd yr oedd 28,000 o bersonau yn marw bob mis. Chwi a wyddoch pa beth a wnaed i'w cynnorthwyo. Cafodd yr arian a roddwyd gan bersonau caredig yn Lloegr i'r " Mansion House Eelief Eund" eu treulio mewn prynu rice, ymborth hoífus yr Hindwaid, mewn gwledydd lle yr oedd cligonedd i'w gael, gan ei ddwyn i'r India mewn llongau. Yna anfonid ef ar hyd y ífyrdd haiarn neu mewn menni i'r lleoedd y byddai y newyn yn dost ynddynt, a rhoddid ef i'r cleifìon a'r rhai newynog yn ddognau bychain, bron yn ddigon i gynnal bywyd ynddynt. Derbyniai y rhai a allent weithio ychydig ychwaneg na'r lleill. Er nas gellid yn hawdd ei hebgor oddiwrth ei ddyledswyddau arferol ar y fath adeg bryderus, cydsyniodd Dr. Strachan, Ysgrifenydd y Gymdeithas yn Madras, i helpio y boneddigion a roddent y cynnorthwy yma. Diammeu ei fod \\u