Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

*■ Rhif. IX.] [Mai 1, 1878. DALEN GENHADOL CHWARTEROL. Y GYMDEITHAS ER LLEDAENU YR EFENGYL. 'íì......J!|! :rll';!!rir\|!ífh:v:í-íí:;-,,n ■ í;'í[l::i![; l::!í;!|;'-!l;,.;.: :!:;n ';^ÌÌÌÌËIll''l>IÌHÌ GWRAIG A BACHGEN YN GLANHAU RIOE YN MADAGASCAR. Daw'r bobl a welir yn ein harlun o ynys fawr, yn gorwedd o du'r dwyrain i Affrica, a elwir Madagascar. Mae oddeutu maintioli Efraingc, ohd o ífurf hir, gyd â mynyddau uchel yn y canol, coedwigoedd mawrion ar eu hochreu, a thir isel morfáog yn gyfagos i'r môr. Mae gan y Gymdeithas er Lledaeriu* yr Efengyl Genhadaeth yno er y ílwyddyn 1863. Yn bresennol mae Esgob Prydeinig yn ben arni, gyd â naw o "Wyr Eglwysig yn llafurio yn y pedair prif orsaf, amryw ysgolion helaeth i'r bechgyn a'r genethod, coleg hyfforddiadol i'r clerigwyr brodorol, yspytty i'r cleifion, argraphwasg, a lliaws o fân orsofaedd ym mha rai y ceir yr athrawon brodorol yn carrio gwasanaeth ymlaen ac yn cadw ysgol dan oruwchreolaeth yr Esgob a'r Cenhadon. '€ Er fod Madagascar yn bur agos at Aífrica, nid Negroaid yw'r bobl a breswyl- iant yno ; fel y gellwch weled wrth yr arlun. Ganddynt mae croen llwyd-ddu, gwallt du disglaer, a gwynebpryd o ífurf da. Maent yn llawer tebyccach i Ynys- wyr Mor y De, ac yn rhannedig i liaws o lwythau: ond y prif lwyth o'r oll yw'r Hova. Yn ol pob tebygolrwydd mae'r wraig a ganfyddir yn yr arlun yn un o'r llwyth hwnnw, a'r bachgen yn gaethwas iddi. Daethant i Madagascar o ryw wlad bellennig, amryw gannoedd o ílynyddau yn ol, gan ymsefydlu yn yr ucheldiroedd iach sydd ynghanol yr ynys. Gorchfygasant yr holl lwythau eraill, a llywodr- aethant hwy yn gyífelyb fel y llywodraethid y Sacsoniaid gan y Normaniaid yn Iiloegr, 800 o fiynyddau yn ol. Y rhai a ymladdasant yn eu herbyn a laddwyd neu ynte a wnaed yn gaethion; rhaid i'r rhai a ymostyngasant iddynt dalu teyrn- ged : ond mae'r Hovas yn ben ar bobpeth. - Y bobl â pha rai yn bennaf y mae a fynno ein Cenhadon ydynt ddau lwyth mawr, a elwir y Betsimisarakas a'r Sakalavas, ag ydynt yn ddarostyngedig i'r ^—- ■*