Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. XI. J [Tachwedd 1, 1878. DALEN GENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITHAS ER LLEDÁENU YB EFENGYL. Uì*JB/M ' , BECHGYN AMDDTFATD YN BANDA. GENHADAETH BANDA. *- Banda yw prif dref rhandir eang a elwir Bundelkund, yr hwn a orwedda o du'r gogledd i India Ganolbarthol, gerllaw Mynyddau Vindhiya. Mae gan y Gymdeithas Genhadaeth yno er 1873, gyd â changen-orsaf yn Hamerpur er 1875. Cenhadwr Seisnig, y Parch. J. B. IIill, sydd yn ben arni. Cynhorthwyir ef gan ei wraig, tri cateceisiwr, dau ysgolfeistr, a dau werthwr llyfrau Cristionogol a thraethodau. Dengys ein harlun swp o fechgyn amddifaid o ba rai y mae ef wedi cymmeryd gofal. Mae'n bresennol driarddeg o'r rhai hyn, a chwech o enethod. Yr eneth hynaf, yr hon sydd wedi tyfu i fynu yn Gristion cysson ac wedi ymbriodi, sydd yn edrych ar ol ei hen gymdeithion. Mae yno hefyd ysgol ddyddiol eang i'r bechgyn. Pan gafodd Mr. Hill yr amddifaid yr oeddynt yn hanner newynog, ac yn afìach mewn canlyniad i'w gwaith yn bwytta pethau anghymmwys. Arferent íanw eu cylla â phridd; ac er y rhoddir grawn iachusol ddigonedd iddynt yn bresennol, anhawdd iawn eu tynnu oddiwrth eu hen arferiad. Oherwydd y bwyd drwg yma mae llawer o afiechyd wedi bod yn eu plith, a bu farw saith y flwyddyn ddiweddaf. Mae'r rhai a adawyd yn cryfhau, er i ddau golli llygad bob un mewn canlyniad i ophthalmia. Gellir cael ychwaneg o'u hanes yn y Gospel Missionary am Hydref a Thachwedd, 1878. ^ Hyd yn hyn nid oes llawer o Gristionogion yn Banda, ond cynhydda'r gwaith ; a cheir y bobl a brynant lyfrau, neu a glywant y Cenhadon neu'r cateceiswyr yn pregethu, yn fynych yn dyfod drachefn i ymddiddan â hwy, er mwyn dysgu ychwaneg am y wir grefydd. Un o'r rhai hyn oedd yn JPtmdit neu ddyn dysgedig, yn derbyn tâl gan y Maharajah (neu Arglwydd) Panna, 'tref yn Bundellmnd. Aeth un o'r rhai a werthent lyfrau o dý i dý yno, prynodd y Pundit rai o'r llyfrau; a dylanwadwyd cymmaint arno gan yr hyn a ddarllenai, fel y cymmerodd y gwerthwr i bresennoldeb ei arglwydd, gan ddywedyd, " Dyma lyfrDuw. Dyma yr ■* •>J<