Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

W-jB.ẁíẃirf *»»rit ^Wfcí^ í -Jûf 1« i»ý4 *- IIhif XIV.] [Awst 1, 1879. DALEN GENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITHAS ER LLEDÄBNtf Ylî EFENGYL. ZULULAND. " O dyna Salome! dyna Salome ! " ebai ugain o leisiau brwdfrydig. Yr oedd yr holl frwdfrydedd yma wedi cael ei achosi gan yr arlun hwn o'r ferch fechan ddu a ddangoswn mewn cyfarfod cenhadol, nid nepell o'r lle y preswyliai ynddo yn y wlad Gristionogol gyssurus yma ; ac yr wyf fìnnau yn mynecl i ddweyd rhywbeth wrthych am ei chartref a hi ei hunan, a'r modd y daeth i Loegr i fyw ymhlith genethod Seisnig, ac yn gyfeillgar â hwy. Darfu i íbneddiges ragorol a charedig benderfynu gadael ei chartref a myned a byw yn un o'r Gorsafoecìd Cenhadol yn Zululand, ac yno ddysgu gwragedd a genethod Zulu. A lle y mae Zululand ? Edrychwch ar y map o Affrica, a chanfyddwch y cyfandir o'r un ffurf ag ysgwyddog myharen; ar ei phen culaf mae Tref y Penrhyn; ac ond i chwi redeg eich bysedd i fynu ar yr ochr ddwyreiniol, deuwch ar draws llain o dir tair onglog, cartref y Zulu ffyrnig ond noble. Oddeutu deucldeng mlynedd yn ol aeth cenhadon ir wlad hon, ond yr oedd eu dyfodiad yn beth pur g/oes i ewyllys y brenin, yr hwn bob amser sydd wedi bod yn erbyn i'w ddeiliaid clroi yn Gristionogion, oblegid tybia yn ffol (íyr elent yn weision brenin a elwid Crist" yn lle parhau yn weision iddo ef. Ond o'r diwedd rhoddodd gennad iddynt godi eglwys fechan, ysgoldy, a thy i fyw ynddo yn " Kwamagwasa," ac yma, er gwaethaf ofn marwolaefh o dro i dro, y deuai y paganiaid a dderbyniasent gennadwri yr iechawdwriaeth i fyw, modd y gallent fod yn agosach i'w hoffeiriad a gwasanaethau yr eglwys. Mae'r Zulu yn ddyn lluniaidd a dewr, ond nis gwyr pa fodd i garu; ac nid yw yn rhyfedd, oblegid nid yw yn adnabod Duw, yr hwn, fel y dywed y Bîbl wrthym, sydd gariad. Mae rhai o honynt yn credu mewn yspryd drwg, ag sydd bob amser yn ceisio eu niweidio, eu gwneuthur yn glaf, lladd eu hanifeiliaid, a dinystrio eu cnydau: a'u hunig addoliad sydd gynnwysedig mewn ceisio cael ganddo beidio eu niweidio; tra gwahanol i'n haddoliad ni o Dduw, yr hwn a wna fwy o ddaioni i ni nag a allwn