Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

: ■ Rhif XXIV.] [Chwefror 1, 1882. DALEN GENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITRAS EB LLEDAENU YB EFENGYL. EGLWYS GADEIBIOL CEIST, COLOMBO. YE EGLWYS GADEIRIOL. Mae'r cerfìad uchod yn arddangos eglwys gadeiriol Colombo, y brif ddinas yn ynys Ceylon. Mae ei saíie yng nghyínniau gogledd-ddwyreiniol y ddinas, a elwir Mutwall, yn ei haddasu i gyflawni yr amcan a fwriedid iddi gan ei sylfaenydd, Dr. Chapman, Esgob cyntaf Colombo, sef canolbwynt gwaith cenhadol. Eel hyn darfu i r Esgob, heb ymyrraeth mewn unrhyw faes oedd eisoes yn bodoli, gychwyn cen- nadaeth ag sydd wedi cynhyddu ac ymeangu ar bob ochr yn yr ardal yma a ymddangosai yn un mor anghyspell, ac wedi troi ailan yn llwyddianus a bendithfawr ynddi. Bellach mae Colombo wedi cynhyddu gymmaint fel ag y daeth yr eglwys gadeiriol i fod yn eglwys blwyf i nifer mawr o Saeson a rhai a siaradant Saesnaeg. Mae Mutwall yn ardal boblog; wrth gwrs, y Singhaleaid brodorol a wnant i Iynu y mwyafrif, ond y mae yno hefyd filoedd o Tamiliaid a Mooreaid, h.y.t mas- nachwyr ac ymsefydlwyr Mahometanaidd ac Arabaidd, a ddaethant i ddechreu cychwyn o Arabia a Gogleddbarth India, ynghyd â nifer helaeth o ddisgynyddion yr ymsefydlwyr Portugeaidd ac Isellmynaidd. Addolwyr Buddha yw y Singhaleaid, a Hmdwaid neu addolwyr y Diafol yw'r Tamiliaid, a Mahometaniaid y Mooreaid. Gan y rhai olaf mae eu mosques, a chan y rhai cyntaf a enwyd eu temlau, oll yn sefyll mewn lleoedd amlwg yn yr heolydd llawn. Saif yr eglwys gadeiriol yn gylchynedig gan ei choleg a'i hysgolion, ac yn cael ei chysgodi gan balmwydd, fel gwylfa oleuedig ar fryn, yn rhoddi llewyrch yng nghanol gwlad-llawn o baganiaeth ac anghrediniaeth. Anhawdd mewn lle prin fyddai rhoddi drychfeddwl eglur o eangder y gwaith cenhadol a dardd o Mutwall. Gellir dewis gwaith addysgawl y coleg fel esampl yn dylanwadu ar holl Ynys Ceylon. Oblegid y mae nid yn unig yn rhoi cyíleusterau ir ieuengctid brodorol gael eu hyfforddi a'u haddysgu gogyfer a'r weinidogaeth frodorol, ond hi hefyd yw'r unig ysgol lle nad yw'r addysg secularaidd uwochraddol wedi ei gwahanu oddiwrth hyfforddiant crefyddol. -*