Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

%. Rhip XXVII.] [Tachwedd 1, 1882. DALEN GENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITHÁS EB LLEDÂENU YB EFENGYL. NEWFOUNDLAND. > ŵ' Mae ein harlun wedi ei gymmeryd oddiwrth photograph o waith y parch. H. C. H. Johnson, Cenhadwr yn Green Bay, Newfoundland, gyd â ei weinidog, wedi ymddilladu mewn gwisgoedd gauaf. Mae'r wisg yn gynnwysedig o gappan glyd i ddiddosi rhag oerfel mawr a'r eira, goff, esgidiau eira, botasau Indiaidd, a'r hyn a elwir yn nunny bag. Ar fiaen y gaffj mae bâch, a gwneir defnydd o hono naill ai ì deimlo y rhew wrth fyned ymlaen, pan fyddo yn frau a pheryglus, neu ynte fel pawl neidio pan fo eisiau myned dros agendor, neu fel moddion diogelwch pe digwyddai i un ddisgyn i'r dwfr, neu ynte i dynnu neu wthio rhew symmudol yn y dwfr, o'r hwn y gwneir defnydd mynych fel pont nofìadwy i groesi sianel a fo n rhedeg trwy y rhew, ag y byddai raid myned cryn bellder cyn y gellid ei chwmpasu. Mae hwn yn gydymaith tra angenrheidiol a gwerthfawr ; ac y maen ofynol iddo feddu digon o hýd, a bod yn ddigon caled ac ysgafn i atteb y dibenion i ba rai y mae'n wasanaethgar. Mae'r esgidiau eira o ffurf neülduol, ac yn wasanaethgar i gerdded ar eira dwfn ansathredig. Mae'r traed yn cael ei gyfleu ar rwydwaith o gareiau croen y carw, ac yn galluogi y cerddedwr ì droedio yn ysgafu ar yr haen o eira sych. Gelwir y botasau Indiaidd ar yr enw hwnnw oblegid mai gwaith Indiaid Labrador ydynt. Gwneir hwy o groen morloi, ac nis treiddia lleithder trwyddynt. Gwisgir y rhai yma heb wadnau, yr hyn a'u gwna yn •*