Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

■ ŵ. R'hif XXIX.] [Mai 1, 1883. EN GENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITHAS EB LLEDAENU YB EFENGYL. DELHI. EGLWYS ST. STEPHEN, DELHI. *7 Deliii yw uii or dinasoedd hynaf yn y byd, er nad yw yn ei ífurf a'í safle bresennol yn fwy na dau can mlynedd o oedran. Tybir i'r ddinas gyntaf gael ei seíydlu, ,dair mil o ílynyddau yn ol, un milltir ar ddeg o'r fan lle y saif yr eglwys arno yn bresennol. Mae yr lioll wagle rhyngddynt yn orchuddieclig gan adfeilion hen í)delhiau, a gellir dilyn sylfeini muriau chwech o wahanol ddinasoedd, pob un o hoiiynt yn Dcleíhi yn ei thro. Heblaw y rhai hyn mae dwy ddinas arall yn nês i lawr tu a'r dehenbarth, yn yrngodi allan o'r gwastadedd fel ynysoedd yn y môr, y rhai nis preswylid ond aw ychydig amser. Ac fel hyn fe barhaodd y ddinas i ymsymmud yn raddol hyd nes y cyrhaeddodd yr afon Jumna, ac yno fe arhosodd. Temlau a beddrodau yw y nifer liosoccaf o'r adfeilion, gan fod y tai cyffredin yn ymddryllio yn fuan yn y gwlawogydd trymion. Delhi o'r braidd bob amser aedd prif ddinas y rhan honno o'r wlad, ac un amser hi oedd prif ddinas yr oll o India. Pan dorrodd y gwrthryfel allan yn 1857, meddiannwyd y gaerfa gan fyddin y gwrthryfelwyr, a lladdasant y Prydeiniaid aecldynt ynddo ; ond llwyddodd y rhai a breswyliynt mewn rhannau eraill o'r ddinas i ddiange. Yna daeth mintai o Saeson, y rhai a wersyllasant ar y bryn isel sydd o fewn hanner milltir i'r ddinas, ac yno hwy a arosasant mewn pebyll, trwy holl wres mawr yr haf. Nid oedd y fyddin fechan ond saith mil o wŷr mewn nifer, o chynnwysai y ddinas a warchäent 165,000 o bobl. Ymladdasant yn ddewr am bum mis, nes un bore y llwyddasant i ddryllio un a byrth y ddinas, gan fyned i mewn, ac ennill y ddinas gwedi tridiau o ymladd caled. Mae muriau y parth yma o'r ddinas, a'r porth, wedi eu gadael fel ag yr aeddynt, wedi eu rhidyllu gan fwledau. Un o'r swyddogion a laddwyd ar y pryd oedd y Cadfridog Nicholson, yr hwn a edmygid mor fawr fel ag y fíurfiodd y brodorion sect i'w addoli, er idclo gurro amryw o honynt am wneuthur hynny. Ar