Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

■* Ehif XXXI.] [Tachwedd 1, 1883, DALEN GENHADOL CHWARTEROL Y OYMDEITHAS EB LLEDAENU YR EFENOYL. CENHADAETH BANDA A BUNDELKHAND. GWEITHWYR CENHADOL YN BANDA. Bundelkhand, neu wlad y Bundelaid (llwyth o Rajputiaid), yw un o'r talaethau hynny yng nghanolbarth India ym mha rai y ceir hyd heddyw liaws o Rajas Hindwaidd yn lly wodraethu eu teyrnasoedd. Mae o ran ei hŷd yn 200 o filltiroedd, a'i ]lêd yn 150, yn cynnwys ychwaneg na phedair miliwn o bohl, a ll'iaws o ddiiiasoedd a threfydd. Ü'r tu dehau iddi mae Mynyddoedd Vindhya, ac yn eu cymniau mae'r wlad yn bur ffrwythlawn a phrydferth. Efurfiwyd afonydd a llynnau, ac adeiladodd y Rajas gestyll a phalasdai, o ba rai yr ant allan yn fìn- teioedd ar feirch ac elephantod a chamelod, i hela y teigr a'r llewpard a'r arth. Banda ydyw enw tref dan y Raj, neu'r llywodraeth, Brydeinig, ond nid yw neppell oddiwrth Dalaethau Brodorol Bundelkhand. Adeiladwyd Eglwys hardd yma ychydig amser cyn y Gwrthryfel gan y preswylwyr Prydeinig; ac ar ol iddi (yn gyífelyb fel ag y gwnaed âg o'r braidd yr holl adeiladau Cristionogol yn Hindw- stan) gael ei dinystrio gan y gw.rthryfelwyr, ailadeiladwyd hi gan y Cristionogion Prydeinig gwedi iddynt ddychwelyd. Ond nid oedd un Cenhadwr yn Banda hyd nes y darfu i'r Esgob Milman, ar y Dydd cyntaf o Eiriolaeth dros Genhadaethau, sef ar Wyl St. Andreas, 1872, anfon Cenhadwr yno o Cawnpore, yr hon sydd 76 milltir o'r lle. Marchogodd y Cenhadwr yno ar gefn ceífyl ran o'r ffordd, gan gerdded y gweddill a chymmeryd trol i gludo ei babell a'j lyfrau a'i draethodau. Byth er y pryd hwnnw mae wedi bod ar deithiau pregethwrol yn Bundelkhand bob blwyddyn. Ym mhob prif bentref neu dref codir y babell dan goeden, ac arosir yno weithiau am wythnos neu ddwy, yn ol fel y bo'r bobl yn dangos awyddfryd i gael eu hyfforddi ym mhethau yr Efengyl. Yn gynnar bob bore, ac yn yr hwyr, pregethir yn y bazaar neu mewn pentref cyfagos, a daw y rhai a chwennychant glywed ac ymholi ychwaneg at y Cenhadwr i'w babell, gan ymgomio a dadeu âg ef dan y coed. Bellach nid yw'r pentrefwyr yn ein derbyn gyd â drwgdybiaeth, ond gyd â hynawsedd a mwyneidd-dra. Cynhygir lletty ac ymborth i ni ym mhob man, ac y mae'r pentref- ydd cyfagos yn eiddigus o'r un a ddewisir gennym i aros ynddo. Dygir allan y *-