Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

H3* Rhif XXXIV.] [Awst, 1884. DALEN GENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITHAS ÜB LLEDÂENU YR EFENGYL. AHMEDNAGAR. mÊgM ISSfflSÌÈSlM* - ■■■:■■'«■■■„ If'l II üBBBÿl WSS .........llllSliI Jffijp mBÈËÍÈÊË BEGHGYN MAHARAIDD A U HATHRAWON. Ahmednagar yw un o'r trefydd mwyaf dyddorol yng Ngor]lewinbarth India. Saif ar wasttatir ag sydd ddwy fil o droedfeddi irwchlaw lefel ymôr. Yn 1487 gwnaed hi yn brifddinas teyrnas Eahometanaidd nerthol, brenin cyntaf yr hon oedd Nizani Shah Baihiri, nen'r Hebog, a elwid felly oherwydd iddo yn fiaenorol fod yn geidwad yr hebogiaid brenhinol. Rheolodd ei deyrnâch yn Ahmednagar hyd oni orthrech- wyd ac y dymchwelwyd hi gan Shah Jehan, Ymherawdwr Moghnlaidd Delhi yn 1637. Gwraig enwog, a elwid Chand Bibi, oedd ferch i Husein Nizam Shah, un o frenhinoedd y deyrnâch yma, a gwraig Ali Adil Shah, brenin y deyrnas gyfagos Bijapur. Wedi ymwisgo mewn arfogaeth, dros yr hon y dodasai orchudd-lèn wèn, hi a ddewr warchododd amddiífynfa Ahmednagar, pan ymosodid arni gan lu mawr dan gyfarwyddyd y Tywysog Morad, Mab Akbar, gan ei yrru ymaith oddiwrth y muriau. Ond pan wnaed ail ymosodiad, yn fuan wedi hynny, syrthiodd y wraig ddewr yma yn aberth i frâd ; llofruddiwyd hi a chymmerwyd meddiant o'r amddi- ffynfa. Ond er hynny ni ddarostyngwyd teyrnas Ahmednagar dan y Moghuliaid y pryd hwnnw. Gwr dewr ac enwog, o'r enw Mullit Umber, a'i hamddiffynodd, ac am flynyddau a fu'n llwyddianus yn yr ymdrechfa o blaid ei hannibyniaeth. Ond gwedi ei farwolaeth ef dinystriwyd hi gan ymbleidiau gwahanol, ac o'r diwedd cafodd ei llwyr ddarostwng. Ond nid hir y parhaodd y Moghuliaid yn y mwynhad o deyrnas Ahmednagar. Trawsgipiwyd hi oddiarnynt, ac anrheithiwyd yr amddiffynfa a'r ddinas, yn 1664. Yn 1797 rhoddwyd Ahmednagar yn rhan i bennaeth a enwid Sindia, ac yn bresen- nol mae un o'i heppil yn un o dywysogion mwyaf blaenllaw yr India. Yn 1803 cymmerwyd hi oddiar Sindia gan yr Ardalydd Wellesley, sef ein Duc Wellington wedi hynny, gwedi iddo ei gwarchae ddeuddydd, ac i'r Prydeiniaid y perthyna byth wedi hynny. Saif yr amddiffynfa o hyd, un o'r rhai cadarnaf yn India, a dangosir '^