Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ehif XXXVII.] [Mai, 1885. DALEN GENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITHAS ER LLEDAENU YR EFENGYL, CENHADAETH WAUANGESDA. Plant Waradgeri yn yr ysgol. Ein hamcan yn y Ddalen hon ydyw gwnenthur yn hyspys ychydig ffeithiau ynghylch Cynfrodorion Awstralia, er mwyn creu ychwaneg o ddyddordeb yn y Gefthadaeth hon, ag sydd hyd yn hyn yn gydmariaethol anadnabyddus. Efallai fod rhai o honoch a'i darllena wedi gweled y Parch T. B. Gribble, a'i glywed yn traethu rhai o'i fanylion dyddorol ynghylch Pobl Dduon Awstralia. Hyd nes y cymhellwyd Mr. Gribble gan Dduw i roddi i fynu fywioliaeth dda, a chyssegru ei holl ymdrechion i'r gwaith mawr o Gristioneiddio y Bobl Dduon, gadewid hwy yn esgeulusedig ac heb ofal am danynt. Ond er y pryd hynny y mae cyfnewidiad rhyfeddol wedi cymmeryd Ue, yn foesol a chymdeithasol, a gwŷr a gwragedd wedi rhoddi heibio eu harferion crwydr- ol, gan ddewis bywyd o dangnefedd a chyssur yng Nghenhadaeth Warangesda. Yma maent wedi cael eu hyíforddi yn hanes melus genedigaeth yr Iachawdwr, ac, uwchlaw pob dim, am ei gariad rhyfeddol yn marw ar y Groes drostynt hwy, a'i waith yn esgyn i eistedd ar ddeheulaw'r Tad i ddadleu eu haohos hwy. Pwy a fedrai wrandaw heb gael ei gynhyrfu ar eiriau yr emyn (Saesneg) adnabyddus ganlynol yn esgyn oddiar wefusau, ac o galonnau hefyd, ein brodyr du ? " Five bleeding wounds He bears, Received on Calvary; They pour effectual prayers, They strongly plead f or me ; Forgive him, Oh! forgive, they cry, Nor let that ransomed sinner die."