Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhip XXXVIII.] [Áwst, 1885, DALEN GENHABOL CHWAETEROL Y GYMDEITHAS EE LLEDAENU YB EFENGYL. CENHADAETH NEW HA&BOUÍt, NEWEOUNDLAND. Eglwys a Phersondy New Harbour, Newfoundland. Yn Newfoundland mae lliaws o blwyfydd mawrion iawn, ym mha rai y mae efallai ugain neu ddeg ar hugain o bentrefydd neu sefydliadau yn wasgaredig dros 150 neu efallai 200 milltir o arfordir, heb ond ychydig ífyrdd tramwyadwy, ac onid un cenhadwr i ofalu am y cannoedd o bysgottwyr tlodion a breswyliant yn y gwahanol leoedd hyn. Nid yw Cenhadaeth New Harbour mor eang a llaweroedd, ond etto mae'n bur fawr. Pe rhoddwn i cliwi enwau y gwahanol leoedd yn fy mhlwyf, canfyddech ar unwaith pa gyrmifer o bentrefydd (neu, fel y galwn ni hwynt, " porthladdoedd,") y rhaid i mi ymweled â hwynt: ac fe fyddai yn ddifyrwch i chwi wybod am yr enwau digrifol sydd gennym yn Newfoundland. Mae gennyf íi unarbymtheg o leoedd, gwasgaredig dros oddeutu hanner can milltir o arfordir, ac o'r 2,137 pobl sy'n preswylio ynddynt mae 1,350 o honynt yn aelodanu o'r Eglwys. Pan ar ymweliad â'r lleoedd mwyaf pellennig, lle yn gyffredin yr arferaf aros am ychydig ddyddiau, bydd gennyf ddau wasanaeth cyfíawn bob dydd, ac fel rheol bydd cynnulliadau da ynddynt. llhydd íy ngweled lawenydd mawr i'r bobl, y rhai a ddarparant i'm cyfreidian goreu ag y gallant. Tra yn aros gyd â hwynt yr ydwyf, wrth gwrs, yn byw fel ag y gwnant hwy; yn cysgu yn eu gwelyau, ac yn ymborthi ar eu lluniaeth. Yn y cyffredin rhoddant i mi eu goreuon, ac y mae eu llettygarwch a'u croesaw calonnog yn ddigon i orchuddio aDghyfleusterau distadl. Yn yr arlun, ychydig o'r tu dehau i'r egì wys, chwi a welwch y flagstaff, yr hon sy'n cael ei defnyddio i wysio pobl i'r eglwys a'r plant i'r ysgol. Dyma'r cynllun arferol yn Newfoundland. Pan godir y faner hwy a wyddant fod gwasanaeth i gael ei gynnal, a phan fo yn dechreu tynnir hi i lawr. Peth arall y rhaid i mi ei grybwyll wrthych, ynglỳn â pha un y mae Eglwyswyr Newfoundland yn rhagori ar Eglwyswyr Lloegr, ydyw'r ddyledswydd bwysig a'r fraint o gyfrannu i Dduw a'i Eglwys. Yn Lloegr, fel rheol, yr ydych yn meddiannu eich eglwysydd hardd a'ch ysgoldai cyfleus a gweinyddiadau glân Eglwys Dduw heb na thraul na thrafferth i