Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANPA DDIRWESTOL GWYNEDD. ABDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. " Yr wyf ynymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Meddwawl; i beidio na rhoddi na chynyg- y cyfryw i tteb arall; ac y'mhob modd i wrthsefyll yraehosion a'r achlysuron o Anghymedroldeb." Cyf. IV.] IONAWR, 1843. [Rhif. XXX. BLWYDDYN NEWYDD DDA IDD Y «DIRWESTWR.' Mb. Dirwestwr,—Hen gyfarchiad arfer- edig yn ein gwlad ar ddechreu blwyddyn ydyw, " Blwyddyn newydd dda;" a digon priodawl ei arfer. Fy nymuniad inau ydyw " Blwyddyn newydddda i'r Dirwestwb," a dyweded yr holl Ddirwestwyr, Amen. Tuag at gyflenwi y dymuniad uchod, y mae amryw bethau yn angenrheidiol; ac yn mhlith ereill, y rhai canlynol: yn I. Caelychwaneg i gredu a chofleidio eg- yryddorion y "Dirwestwr." II. Ychwaieg o Ohebwyr, yn nghyda phar- had yr hen rai. III. Ychwanegiad yn rhif eich derbynwyr a'ch darllenwyr. I. Cael ychwaneg i gredu a chofleidio egwyddorion y " Dirwestwr." Ei egwydd- orion ydynt a ganlyn,—" Na wna i ti dy hun ddim niwaid," a " Char dy gymydog fel ti dy hun:" na wna i ti dy hun ddim niwaid, trwy ymarfer â'r pethau sydd yn lladd cyrff, a damnio eneidiau dynion, sef y diodydd meddwol: paid a niweidio dy hun trwy roi dy arian am danynt. Hefyd, " Câr dy gymydog fel ti dy hun:" dyled- swydd orpnwysedig ar bob Dirwestwr ydyw egni'o ac arfer pob moddion cyfreith- lon i ennill pawb i gredu, a chofleidio yr egwyddorion daionus hyn; " Heb geisio fy lleshad fy hun, ond Ueshad llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig." Gan hyny, deffröed, ymwroled Dirwestwyr Cymru, oblegid nis galiant fod yn ddieuog o waed y meddwon oddi eithr iddynt arfer eu holl ddylanwäd er ennill pawb yn aelodau o'r Gymdeithas Ddirwestol. " Ond pan welo y Gwiliedydd y cleddyf yn dyfod, ac ni udgana mewn udgorn, a'r bobl heb eu rhy- buddio, eithr dyfod o'r cleddyf a chymeryd un o honynt, efe a ddaliwyd yn ei anwir- edd. Ond mi a ofynaf ei waed ef ar law y Gwiliedydd." Hyderwn mai y flwyddyn hon fydd am- ser cyflawniad yr addewid hòno, 4C Na welir meddwyn yn pendroi yn yr heolydd," pryd y bydd egwyddorion Dirwest wedi gwreiddio mor ddwfn yn mbob calon, a thyfu mor uchel, nas gall chwyn diota, cy- feddach, a meddwdod, ei dagu. II. Ychwaneg o Ohebwyr, yn nghyda pharhad yr hen rai. Pa le mae ysgrifen- wyr ac areithwyr medrus a hyawdl fu ar faes sobrwydd ? Mae Elias wrol, Evans ddoniawl, y ddau Williams athrylithgar, a Uawerodd ereill ? Och! och ! gyda galar rhaid i'm ddweyd, fod y rhai A dauiai y byd yn y bedd!!! a'r frwydr heb fyned drosodd! Pa le mae Uawer ereill y bu eu hysgrifau a'u hareith- iau megys yn tynu Jericho feddwol i lawr ? Och! ymaentwedi ******* Ah! ac y mae rhyw benwyni wedi ym- daenu tros lawer ereill. Ai gwir fod meddwdod a diota yn adfywio, ysgrifen- wyr ac areithwyr, a chwithau megys a'ch cleddyfau yn y wain? Onid chwychwi a fu yn saethu i drwch y blewyn at galon y bwystfil meddwdod? ie, yn anfon eich saethau llymion, nes oedd yn gorfod crymu ei ben ? Ond attolwg, pa le yr ydych yn