Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. " Vr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Meddwawl ; i beidio na rhoddi na chynyg ycyfryw i neb aiall; ac y'mhob raodd i wrthsefyll yrachosion a'r achlysuron o Anghymedroldeb.' CYF. IV.] EBRILL, 1843. [Rhif. XXXIII. ARAETH DDIRWESTOL. Gogoniant ac uwchafiaeth yr achos Dir- westol ydyw ei fod o Dduw. V fod Duw o'i blaid, ac yn amddiffynwr iddo, sydd amlwg erbyn hyn, i bob meddwl ystyriol ac iach, fel nad oes angenrheidrwydd cy- meryd y pwnc i fynu er ei brofi. Y fod niferoedd o gyfundraethau wedi eu ffurfio yn y byd, ac nad ynt o Dduw sydd wirion- edd diymwad ; ac amlwg yw hyny am y rhai nad ydyut o Dduw, ' mai o ddiafol y maent.' Y maedwy deyrnas yn bodoli yn y byd: y mae y ddwy yn hollol wrthwynebol yn eu hegwyddorion idd eu gilydd. Y mae y nel» sydd yn amddiffyuydd i un, o angen- rheidrwydd yn wrthwynebydd idd y llall. íms gellir bod yn ddeiliaid i'r ddwy deyru- as ; rhaid yw yinwrthod â'r naill i fod yn ddeiliad i'r llall—y mae egwyddorion y naill am ddinystrio egwyddorion y llall. Y mae ymdrechiadau diflino yn cael eu hymarferyd o bhiid y ddwy deyrnas ; y mae y naill fel y llall yn defnyddio pob moddion a fydd yn effeithiol o blaid llwydd- iant a ffyniant eu hegwyddorion ; ymfydd- ina y ddwy yn fyddiuoedd lluosawg, a gwynebant faes yr yiogyrch, a'u banerau yn chwifiaw, dan eu harwydd-eiriau mil- wraidd, yn ddewr a chalonog ymdrechant, a hyderus y disgwyliant am ennill y fudd- ugoliaeth. Yma sylwer, y mae yr holl ymderchiadau a arferir yn y byd moesol yn ymdrechiadau o blaid egwyddorion un o r teyrnasoedd hyn. Nid oes angenrheidrwydd dywedyd dim o barth natur y teyrnasoedd a enwyd, yn chwaneg na dymunaw ar y darllenydd ed- rych, o ran ei feddwl, ar gyflawniadau gwahanol dynolryw. Gwelir rhai yn ym- gynull yn nghyd i gynal y chwareuaethau pechadurus, y rhai sydd yn achlysuron i bechodau fiiaidd ac ysgeler—rhai am gynal i fyny arferion ag fydd yn warth oesawl ar genedloedd y byd. Y mae ereill, â holl feddylfryd eu calonau, ar gyflawni pob pechod yn un chwant; a gellir dywedyd nad " oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un." Y mae egwyddorion y rhai uchod o angenrheidrwydd yn milwrio yn erbyn dedwyddwch y byd, a gogoniant yr unig ddoeth Dduw. Eilwaith, gwelwch ddeiliaid y deyrnas wrthwynebol mor ymdrechgar dros lwydd- iant eu hegwyddorion, ac yn arddangos y fath ffyddlondeb i'w brenin ; gwelwch hwy yn amcanu at ddinystrio prìf gadernid a grym y gelynion. Clywwch hwy'n canu mor benderfynol— " Mae'r Brenin yn y bla'n, 'Rym ninnau oll yn hy', Ni saif na dŵr na thân O flaen fath arfog lu : Ni awn, ni awn tan ganu i'r lan, Cawn fuddugoliaeth yn y nian." Gofyuir yn awr i baun o'r ddwy deyrnas yma y perthyna'r Gymdeithas Ddirwestol 1 Gorfodogir ni o angenrheidrwydd i ateb, mai i'r olaf a enwyd, am ei bod yn amcanu at berffaith ddinystrio egwyddorion y fiaen- af. Y mae y Gymdeithas Ddirwestol i'w