Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. "Yt wyf yn yrarwymo yn wirfoddoli lwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Medd*awl; i beidio na rhoddi na chyuyg y cyfryw i neb arall ; ao y'mhob modd i wrthsefyll yr aehosion a'r achlysuron o anghymedroldeb.'' CYF. IV.] HYDREF, 1843. [Rhif. XXXIX. SYLWADAÜ AR ACTAÜ V. 39. " Os o ttduw y mae, ni ellwch eìiwi ei ddiddymu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw." Y mae pob peth mawr, rhyfedd, a newydd, ar ei gychwyniad cyntaf jn y byd, yn dwyn sylw llaweroedd ato, ac yn achosi cryn gynwrf yn ei gylch. Pan y byddo Comet yn gwneyd ei hymddangosiad, rhy- fedd y sylw fydd arui, a'r siarad fydd yn ei chylch, a'r gwahanol farnau fydd mewn perthynas iddi. Yr oedd cynwrf mawr iawn yn y byd pan lefarwyd geiriau y testyn. Ar ymddangosiad cyntaf Oist i'r byd, fe fu cynwrf y pryd hyny—crynodd uffern i'w sylfaeni, a chyffrowyd Herod a holl Judea, ac ni l»u gelynion Crist lonydd nes y croeshoeliasant ef ar bren. Meddyl- ient fod y cynwrí' wedi darfod pau anadl- odd ef ei anadliad olaf ar y groes, a phan y gwelsant ei fod ef dan gloëon ystafelloedd angeu. Ond os mawr fu y cynwrf cyn hyny, mwy fu y cynwrf wedi hyny; oblegid efe a adgyfododd o'r bedd, a thy- walltodd ei Ysbryd ar ei Apostolion ar ddydd y Pcntecost, fel yr oeddynt yn llef- aru yn mhob iaith, y naill mor hawdd a'r llall; yn gwneyd gwyrthiau mawrion a rhyfeddol, ac yn troi y byd, mewn ystyr foesol; ugeiniau ar ugeiniau yn cael iachâd o glefydau, a miloedd ar filoedd yn gadael eu hen arferiadau, ac yn cofleidio y grefydd Gristionogol, yn proffesu yn ddigywilydd farw Iesu yn ol yr Ysgrythyrau, a'i gyfodi hefyd yn ol yr Ysgrythyrau. Cymaint oedd y cyffro a'r cynwrf oedd yn canlyn gweinidogaeth yr Apostolion, fel pan aent i le newydd, y dywedai eu gelynion, " Y rhai sydd yn cynyrfu y byd a ddaethant yma hefyd." Ond i'r dyben i geisio rhoddi terfyn ar waith a phregethu yr Apostolion, ymgynullodd yr archoffeiriaid Iuddewig, y lly wodraethwyr, a blaenoriaid y bobi, at eu gilydd, gan gydymgynghori pa beth a wnaent. Anfonwyd ceisbyliaid, daliwyd rhai o'r Apostolion, a bwriwyd hwynt i garchar; ond anfonodd Duw ei angel, a thynodd hwynt o'r carchar, ac yr oeddynt bore dranoeth mor ddigywilydd a diofn ag erioed yn y deml yn pregethu i'r bobl; ond anfonwyd a chyrchwyd hwy ger bron y cynghor drachefn, a pharodd araeth Pedr i rai o'r cynghor benderfynu mai y goreu fyddai eu lladd hwynt. Ond yr oedd yno un dyn callach nâ'r cyffredin, Pharisead, Gamaliel, doctor o'r gyfraith, gvvr parch- edig gan yr holl bobl, ac a archodd yru yr Apostolion allan dtos enyd fechan. Wedi eu cael allan, fe dròodd at y cynghor, ac a ddy- wedodd, " Ha wŷr o Israel! edrychwch arnoch eich hunain, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur am y dynion hyn. Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Pheüdas i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un ; wrth yr hwn y glynodd rhifedi o wŷr, yn nghylch pedwar cant : yr hwn a laddwyd, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgar- wyd, ac a wnaed yn ddiddym. Ar ol hwn y cyfododd Judas y Galilead, yn nyddiau y dreth ; ac efe a dröodd bobl lawer ar ei ol: