Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. " A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 66.] MEHEFIN, 1886. [Cyf. VI. Y GWÍR OLEÜNI. (Ioan I. 9-14.) 'AE y Testament Newydd yn gwneyd yr un gymwynas garedig i'r holl fyd ag a wnaeth Philip i'r Samariaid, sef pregethu Orist iddo. Dyma drysor godidog mewn llestr papyr. At ddechreu ei hanes am Grist, mae Ioan yn rhagymadroddi ar rag-hanfodaeth y Gair, ei Hanfod Tragywyddol, a'i Hollalluogrwydd, Doethineb a Daioni fel Creawdwr a Ohynaliwr. Allan o'r rhagymadrodd ystyrlawn hwn,darn ardderchog ydyw y testyn, geiriau plentyn a meddwl Duw ynddynt; gallai plentyn ddefnyddio y geiriau, ond y mae y drych- feddyliau a'r gwirioneddau a gynwysant yn fwy nag a allasent gychwyn 0 feddwl dyn. Dwyfoldeb y Gair, sef lesu Grist, ydyw gwirionedd amlycaf y testyn. Aeth Iesu drwy y byd, nid yn unig heb iddo gael ei dderbyn, ond heb ei adnabod ; canys pes adwaenasid Ef, ni • chroeshoeliasid Arglwydd y gogoniant. Dywedir yma pa beth yw Crist i bawb, a pha beth ydyw i'r saint— goleuni y byd, a gwneyd y saint yn feibion i Dduw. Yr Hyn yw Crist i'r byd OLh—goîeuni i bob dijn ag ;<ydd yn dyfod i'r byd. Ei Orewr.—Ynddo Ef yr oedd bywyd, digonedd 0 fywyd i gyfranu bywyd i greaduriad heb rifedi, fel y mae digonedd 0 ddwfr yn y môr i borthi holl ffýnonau y ddaear. "Trwyddo Ef y gwnaethpwyd pob peth," ymadrodd sydd yn meddwl yr hyn y mae yn ei ddywedyd, a hyny mor syml ac eglur fel nad oes yr anhawsder lleiaf i gael allan ei ystyr ; y mae mewn cysylltiad rhy bwysig i fod yn amwys a thywyll. Ei Gynalydd.—" A'r Bywyd oedd oleuni dynion." " Yn cynal pob peth trwy air Ei nerth," meddai awdwr hyawdl ac athronyddol arall yn y Cyfamod Newydd hwn. Dysgir ni ynddo oll fod y Duwdod yn 11