Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD " A Owaith Gyfiaẁnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 67.] GORPHENAF, 1886. [Cyf. VI. Y DIEFLIG A'R MEDDWYN. (Luc YIII. 26-39.) |YMA benawd rhyfedd !" medd rhywun ; "pa reswm all fod dros gysylltu y ddeuddyn hyn â'u gilydd ?" Wel, rhaid addef nad oedd yr ysbrydion aflan a feddianent y dyn o Gadara yr un o ran natur a'r spirits a yfir gyda'r fath flys yn nhafarndai ein gwlad. Ac eto, wedi ychydig ystyriaeth uwchben y gyfran hon o'r Ysgrythyr, mae tri pheth yn naturiol ymgynyg i'n meddwl :— I. FOD EFFEITHIAU DIOD GADARN AE Y MEDDWYN YN GYFFELYB I DDYLANWADAU YR YSBRYDION AFLAN AR Y DIEFLIG. Pa/öẃ/ yr elai ysbrydion aflan i mewn i enaid a chorff dynol nes enill perffaith feistrolaeth arnynt, sydd ddirgelwch mor anhawddei esbonio a'r dull yn mha un y dylanwada y meddwl a'r corff ar eu gilydd. Er mor ddirgelaidd ydoedd y gweithrediadau mewnol, yr oedd yr effeithiau allanol yn eglur i bawb. Nid ysbryd aflan mewn dyn sydd yma, yn ol yr iaith wreiddiol yn Efengyl Marc, ond dyn mewn ysbryd aflan, fel y dy- wedwn ninau weithiau, " dyn meion tymher ddrwg." Dyma ymadrodd cryf, yn dangos fod olion dynoliaeth wedi diflanu i raddau pell, a'r elfen gythreulig wedi ymwthio i'r amlwg yn ei ymddygiadau. Felly hefyd, gyda golwg ar ddiodydd meddwol. Nid oes neb ond y sawl sydd wedi astudio y cyfansoddiad dynol ac yn hyddysg mewn gwyddoniaeth, a fedr ddesgrifio gweithrediad dirgelaidd gwirf {alcohol) aryr ymenydd a rhanau tuf'ewnol y corff; ond nis gall y dosbarth mwyaf anllythyrenog ac annysg- edig o'r werin fod yn ddall i effeithiau allanol diodydd meddwol, canys ymwthiant i'r golwg beunydd yn mhob dnll a modd. Mor darawiadol ydyw y tebygolrwydd cydríiwng y dieflig a " dyn mewn diod " 0 ran eu cyflwr a'u harfe.ion. 1. Un effaith 0 eiddo yr ysbryd aflan oedd, " Ni loisgaì y dyn ddilìad efs talm 0 amser."—Nid oedd wedi bod felly erioed ; ymddengys 13