Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Owaüh Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 184.] EBRILL, 1896. [Cyf. XVI. PARHAD Y CYFLWR NESAF. " Bydded anghyfiaiön eto."—Dat. xxii. 11. |AE rhai dynion, na feddant ffydd ddigonol ac ydynt yn amddifad 0 anian ysbrydol, yn gwadu y llyfr rhyfedd, arswydol, gogon- eddus, y Datguddiad. Ond yn marn y gwir gredadyn, mae o'r gwerth mwyaf; ac yn ei olwg ef, ni fyddai yr Ysgrythyrau yn gyflawn hebddo. Cyfyd y llèn oddiar agweddau pethau ;yn y byd a ddaw, fel pe chwelid y cymylau i gael golwg ar y ser. I Ioan, y Dysgybl Anwyl, y rhodded y Datguddiad, y dangoswyd afon bur o ddwfr y bywyd. Saint Duw drwy ffydd sydd yn cael gwybod y dirgelion, fel swyddogion cwmni masnach, neu lywodraeth, er dwyn y gwaith yn mlaen yn iawn. Mae y gwirionedd a gynwysir yn y testyn 0 bwys anhraethol. Yn y byd hwn mae deddf cyfnewidioldeb yn teyrnasu ; mae dull y byd hwn yn myned heibio, ond yn y cyflwr nesaf anghyfnewidioldeb fydd yn teyrnasu; fel y mae sefydlogrwydd ymddangosiadol wedi hoelio y ser yn eu morteisiau yn yr asur, fel na syflant. MáE PARHAD I FODOLAETH ÜYN. Dyma ffaith bwysicaf natur, a gwirionedd mawr y Beibl, yr hwn a esyd werth a'r canlyniadau mwyaf difrifol i bob gwirionedd arall a gynwysa. I barhau y gwnaeth Duw ddyn ; ni fwriadodd iddo beidio a bodoli, canys gosododd Ei ddelw arno, ac nid yw hono i fyned allan 0 fodolaeth; trysor diddarfod a thragywyddol ydyw fel dyfodol Duw ei Hun. Mae galluoedd dyn yn gyfryw ag a'i cymhwysant i fyned yn y blaen byth. Pwy all ddirnad yr hyn fedr meddwl ac ysbryd wneyd ? Mae yn trin y pynciau mwyaf dyrys yn y byd ysbrydol a Dwyfol, yn chwilio i mewn i bethau tragywyddol. Nid yw yn ddedwydd wrth ei gy/yngu i'r byd materol gweledig, mwy na'r aderýn yn y gell. Mae ganddb adenydd, ac eheda i'r eangder a gylchyna orsedd yr Anfeidrol. Yn y byd hwn gesyd i lawr sylfeini dysg y bydd yn adeiladu byth arni.