Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD "A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 203.] TACHWEDD, 1897. [Cyf. XVII. CWYMPIAD Y DAIL. " Megys deìlen y syrthiasom ni oll."—Esaiah hriv. 6. jN o'r cyfeiriadau cyntaf a geir yn y Beibl at ddail ydyw y crybwylliad a wneir yn nglŷn â'r suit gyntaf wisgodd dyn erioed. Gwisg o ddail ydoedd hono. Ond y mae pob gwisg hunan-wneuthnredig yn annigonol i wynebu Duw cyfiawn, llawer llai gwisg 0 ddail—nad oedd a fyno hi ond â'r corff, ac yn cynwys gormod o fywyd. Fe fu raid newid y dail am y crwyn ; ac er cael crwyn yr oedd angen i ryw fywyd gael ei golli, a rhyw waed ei dywallt. Yn nghysgod Gwaed yn unig y gallwn ddysgwyl maddeuant. Ond os nad yw dail yn ddefnyddiau da i weithio ohonynt wisgoedd, y maent er hyny yn athrawon rhagorol i'n cyfarwyddo ar lwybrau bywyd. Gwelsom filoedd ohonynt yn cael eu chwythu o gwmpas ein traed, heb erioed ystyried fod gan bob un ei neges atom ; ond pe gallem agor ei dorau, fe ganfyddem yn fuan nad yw pob deilen fechan yn ddim amgen nag ystordy o addysg a gwybodaeth. Mae y ddeilen yn chwareu rhan bwysig yn y greadigaeth faterol; yn llanw lle mor bwysig fel na byddai creadigaeth lysieuol hebddi hi. Y ddeilen ydyw sylfaen a hanfod y byd llysieuol. O'r ddeilen y daeth i gyd, ac y daw 0 hyd. " Yr oeddwn i yn arfer meddwl," meddai'r dyn, " mai yr hedyn bach ydyw y peth lleiaf yn myd y Uysiau, ac mai hwnw jw ffurf gychwynol pob peth llysieuol." Eithaf gwir ; ond pa beth, atolwg, ydyw pob hedyn ? Dim amgen na deilen fach wedi ei chrynhoi i'r cylch lleiaf posibl. Ac nid yw holl gynyrch dyfodol yr hedyn yna ond dail cyffelyb. Dyna baladr y llysieuyn—cyfansoddedig 0 ddail. Dyna'r blodeuyn a'i corona—dail lliwiedig ; a dail wedi ymagweddu i ffurf neill- duol ydyw cynwysiad y ffrwyth ei hunan. Mor bwysig ydyw y cylch lenwir gan y ddeilen yn y greadigaeth, fel nad yw yn rhyfedd fod y Beibl yn ei chodi i fyny mor aml fel gwrthddrych sylw a myfyrdod. 20