Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 212.] AWST, 1898. [Cyf. XVIII. Y MODDION GOREÜ I SICRHAU LLWYDDIANT YR YSGOL SABBATHOL. MAE yr Ysgol Sabbathol erbyn hyn wedi cyrhaedd gwth o oedran, ac yn parhau i fod " yn dirf ac iraidd yn ei henaint." Gall y Sefydliad hwn ddyweyd ara dano ei hun yn ngeiriau arall: " Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y Uefarwn, fel bachgen y deall- wn, fel bachgen y meddyliwn; " ond gwendid y Sefydliad mewn llawer Ue ydyw methu dyweyd y darn arall o'r adnod : " Ond pan aethum yn ŵr, mi a roddais heibio bethau bachgenaidd." Y mae yr amgylchiadau yn newid, ac y mae yn rhaid i'r Ysgol newid, a'r cyfnewidiad hwn i fod yr un fath a'r cyfnewidiad sydd i'w weled yn y bachgen—bachgen ar un cyfnod, a dyn ar gyfnod arall, ond yr un person o hyd. Beth bynag oedd yu dda yn yr Ysgol fel egwyddor ar y cychwyn, y mae hwnw i aros; ond y mae yn rhaid i'r wisg sydd am yr egwyddor i newid fel y mae yr amgylchiadau yn newid. Y mae yn arnlwg mai y peth mawr oedd mewn golwg gan gychwynwyr yr Ysgol Sabbathol oedd gwneyd i fyny am ddiffygion mewn cyfeiriadau ereill. Y pryd hwnw yr oedd ysgolion dyddiol yn brin, ac ychydig o allu fyddai mewn penau teuluoedd, ac ychydig o ddyddordeb a deimlid ganddynt tuag at ddysgu eu plant. Yr oedd galwad yr adeg hcno am i'r athraw wneyd y peth sydd yn cael ei wneyd erbyn hyn yn fwy effeithiol o lawer mewn cyfeiriadau ereill. Ond y mae awdurdodau yr Ysgol mewn llawer cymydogaeth wedi bod yn ffyddlon iawn i draddodiadau y tadau : " Megys yr oedd yn y dechreu y mae yr awrhon, ac y bydd yn oes oesoedd." Dysgu yr A B C a sillebu oedd'yn amlwg yno ar y dechreu, a dyna sydd yn amlwg yno eto hefyd ; dyn mewn oedran, ond bachgen mewn gwisg; y pethau bachgan- aidd heb eu gadael heibiu. Yr unig beth sydd yn galw am eilhriad yn