Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. tffaiF. 213.] MEDI, 1898. [Cyf. XVIII. YR EPISTOL AT YR EPHESIAID. 'AE hwn yn ardderchog iawn o ran mawredd ei syniadau, o ran dyfnder ei athrawiaethau, o ran eangder ei faterion, ac o ran nefoleiddrwydd ei ysbryd. Haedda i ni sefyll yn ddifrifol uwch ei ben, ei ddarllen yn ystyriol iawn, a bod yn wir ddiolchgar arn dano : mae yn un 0 brif drysorau y Datguddiad gogoned^us. Yn ddiau, dyn Duw, dan arweiniad llwyr yr Ysbryd, a'i hysgrifenodd ; nid cynyrch meddwl ciëedig, digymhorth o'r Fynwes Ddwyfol, er cymainteiathrylitb, ei sêl, ei athrawiaethau, a'i dduwioldeb, ydyw. Fflachiadau goleuol, a gwresogol, a bywhaol ydyw o Haul Cyfiawnder drwy wydr meddwl crëedig wedi ei buro a'ig\segru gan yr hwn a fedrai roddi llygaid i'r deilîion. Diau i'r saint ieuainc yn Ephesus synu yn anfeidrol wrth glywed ei ddarllen pan ddaeth atsnt oddiwrth y carcharor yn Rhufain, apostol Iesu Grist, trwy ewyllys Duw. Onid ydoedd yn rhyfedd i'r fath lythyr gael ei feddwl a'i ddwyn allan o fynwes gwr oedd wedi gorfod ymladd yn gethin mor ddiweddar â'r anifeiliaid yu Ephesus, addolwyr crefydd Diana ! Mae yn rhyfeddod hyd y dydd heddyw ì'w awdwr dihaí'al deimlo mor seichus a llefaru mor anwyl at rai a breswylient yn nhrigle y bwystfilod gwaedlyd. Mae iasau y rhyfeddod hyn yn fyw ynof wrth ysgrifenu y llinellau hyn. Drwy ei ysbrydoliaeth ddiwyrni, gwyddai fod y saint, dynion ail- anedig, yn Ephesus, yn ffyddloniaid yn Nghrist lesu, eu bod yn cywir greduynddo fel eu Gwaredwr, ac yn gwbl ymroddedig i'w wasanaeth, a chyfarcha hwy felly ; dyma Ephesiaid fuont yn eilunaddolwyr flìaidd wedi eu gwneyd yn dywysogion gwynfyd, wedi eu dyrchafn yn uwch nag ydyrchafodd Yictoria neb o'i chyfeillion na'i gweision penaf. "Gras" fyddo iddynt, sef dylanwad mewnol acysbrydol trwy weithrediad arbenig yr Ysbryd Glan er eu perffeithio, megys ag y cyfiawnhawyd hwy drwy haeddiant Crist, y ddau yn anhebgorol yn ughadwedigaeth yr enaid