Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD "A Gwaith Gyfiawnder fydd KET)DWCK."—Esaiah. Rhif. 74.] CHWEFROR, 1887. [Cyf. VII. DYN YN FFAFRYN DUW. " Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot tia'r loraig, a rhwng dy had dia'i liad hiíìuiit. Efe a ysiga dy ben di, a thithaii a ysigi ei sawdl ef"—Gen. iii. 15. 'OR foreu y ceir profion diamwys 0 ochraeth rasol Duw i ddyn ! Pelydra arwyddion 0 gariad uwch-raddol Duw at ddyn mor foreu a thoriad gwawr dydd ei greadigaeth ; ac hysbysrwydd adnewyddol o ffafriaeth Duw i ddyn a ddaw i mewn gyda phob awel a eilw heibio Eden hwyrddydd ei gwymp. Y rheswm am ochraeth eithr- iadol Duw i ddyn sydd ddirgelwch i mi, ond y ffaith fod y Beibl yn dysgu hyn a ymddengys yn amlwg ddigon. Ni a gyfyngwn ein hunain i'r awgrymiadau a geir yn mrwydr y ddau had fod dyn yn ffafryn Dmv. Gosoder had y sarff i sefyll am Satan a'i gwmni, a had y wraig am ddyn a'i deulu. Cariad Duw at ddyn a ddaw i'r golwg yn y pfaith ei fod wedi gosod 0 gwbl elyniaeth rhwng y ddau had. Trefniant Duw ydyw fod yna elyniaeth rhwng had y wraig a had y sarff, " Gelyniaeth hefyd a osodaf." Dywed rhai naturiaethwyr fodyna elyniaeth gynhenid rhwng dyn a'r neidr. Yn neillduol, medd un, ym- gynddeirioga y sarff pan wêl ddyn noeth. Am mai felly y gwelodd hi ef gyntaf yn ddiau, ac y ffurfiodd gyfeillgarwch (?) âg ef, ac nad oedd foddlon ei adael yn y cyflwr hwnw. Ac o'r tu arall, myn llawer fod dyn yn meddu atgasrwydd cynwynol at y sarff, yn dychrynu y tro cyntaf y gwel efe hi. Yr ydym yn amheus 0 gynwynoldeb yr elyniaeth hon, oherwydd clywed ohonom am blant yn chwareu â seirff fel â theganau— yn chwareu wrth dwll yr asp heb dderbyn niwed. Ond y mae yn sicr fod yr elyniaeth yn ymddadblygu yn bur foreu. Gyda llawer o rwyddineb