Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 8i.] MEDI, 1887. [Cyf. VII. POBLOGRWYDD CRIST. " A thyrfa fawr a'i canlynodd Ef; canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnaethai Efear y cleifion."—Ioan vi. 2. [AE dyn yn hoff iawn o'r pruddaidd a'r cwynfanus. Y cywair lleddf ydyw cyweirnod mawr ei fywyd. Ein caniadau melusaf ydynt y rhai sydd lawnaf o'r hanes mwyaf prudd. Fe gân y bardd yn llawer iawn gwell am "Goll Gwynfa " nag am "Adferiad Paradwys." Dichon mai y gogwyddiad meddyliol hwn sydd i gyfrif am fod cymaint 0 bregethu Crist gwrthodedig yn bod, nes y credir yn gyffredin mai cymeriad hollol anmhoblogaidd ydoedd yn mhlith dynion —un ag oedd yn cael ei erlid, ei wawdio, a'i ddirmygu i ba ddinas neu bentref bynag yr elai; ond ni fu syniad erioed yn fwy cyfeiliornus. Mae y fath syniad yn anysgrythyrol, ac yn hollol anheilwng 0, ac anghyd'- weddol â bywyd pur yr addfwyn, tyner, cariadlawn Waredwr. Iesu Grist oedd y dyn mwyaf poblogaidd a fu yn byw ar y ddaear yma erioed. Mae ein testyn yn rhanu ei hun yn naturiol i ddwy ran. I. Poblogrwydd Ceist.—" A thyrfa fawr a'i canlynodd Ef." Yr oedd natur gweinidogaeth Crist o angenrheidrwydd yn ei wneyd yn boblogaidd. Pa beth ydoedd ei swm a'i sylwedd ? Ni fedr neb ei ateb yn well nag y gwnaeth Crist ei hun pan yr anfonodd Ioan Fedyddiwr ddau o'i ddysgyblion i ofyn iddo," Ai Ti yw yr Hwn sydd yn dyfod ? ai arall yr ŷm yn ei ddysgwyl ? " " Eisteddwch i lawr y fan hona am enyd," atebai Iesu. " Pwy sydd genych yn y gongl yna ?" " Rhyw ŵr cloff, syr, 0 groth ei fam." " Dygwch ef ataf Fi." Cariodd y cyfeillion ef idd ei ymyl. Cyffyrddodd Crist â'i liniau, ac yn y man fe 17