Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnderfydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 99.] MAWRTH, 1889. [Cyf. IX. SAFLE YR EGLWYS YN EI PHERTHYNAS A DIFYRION YR OES. JHAID i bawb gydnabod ein bod yn byw mewn cyfnod rhyfedd iawn yn hanes y byd—pethau rhyfedd iawn wedi dygwydd, a phethau hynod a phwysig mewn addewid yn y dyfodol. Un peth amlwg iawn yn y gorphenol ydyw y cynydd dirfawr sydd wedi cymeryd lle mewn dysg a gwareiddiad, a'r arwyddion sydd yn naturiol yn dilyn hyny, sef fod y bobl oeddynt o'r blaen yn hollol ddiofal am eu rhyddid a'u hawliau,nid yn unig yn dyfod i deimlo y cam a dderbyniant, eithr hefyd i ddefnyddio pob moddion cyfreithlawn tuag at ddyfod i iëddiant o'u hiawnderau. Ac y mae yn amlwg erbyn hyn fod ein deddf-wneuthurwyr wedi dyfod i deimlo grym eu dadl, yn eu gwaith yn cydsynio â hwy drwy ddeddfu ar eu cyfer, ac mewn canlyniad i'r mesurau sydd eisoes wedi dyfod yn ddeddfau ein gwlad, yn nghyda'r rhai hyny sydd eto yn debyg 0 ddyfod yn y dyfodol, proffwydir yn gyíFredinol am luaws 0 chwildro- adau cymdeithasol sydd i gymeryd lle yn ein gwlad, ac fod rhyw ddydd- iau dedwydd bron ar wawrio, ac y llewyrcha haul ilwyddiant " Cymru Fydd " gyda mwy o danbeidrwydd a dysgleirdeb. Nid oes dadl i fod nad ydyw dysgeidiaeth a gwareiddiad, yn nghyda'r pethau ereill sydd yn naturiol yn eu dilyn, yn gyfryw nid yn unig eu bod yn werth eu dymuno, eithr hefyd yn rhinwedd ar bawb i gydweithredu er eangu y naill, a choethi a phuro y llall. Ond er mor llesol ydyw y pethau hyn yn mhob gwlad,yr ydys yn rhwym 0 ddyweyd mai rhyw ail-bethau y dylem eu cyfrif. Y grefydd Gristionogol yn unig aallgodi a dyrchafu y byd, a gosod ei lwyddiant a'i ddedwyddwch ar sylfeini sicr a pharhaol. Gall dysgeidiaeth a gwareiddiad fodoli heb grefydd; ond pa le bynag y mae egwyddorion y Beibl yn cael eu derbyn, eu dysgu, a'u parchu, y mae y pethau cyntaf yn sicr 0 ddilyn mor naturiol ag y mae yr effaith yn dilyn yr achos. Mewn gwledydd y bu eu mawredd a'u gogoniant yn dibynu yn gwbl ar ddysg a gwareidd-