Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. " A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 102.] MEHEFIN, 1889. [Cyf. IX. BODAU CHWECHADEINIOG. PROFFWYD Esaiah, yn y chweched benod o'i lyfr, a rydd ddesgrifiad o'r hyn yr edrychodd ei lygaid arnynt mewn gweledigaeth yn nghysegr sancteiddiolaf y deml. Gwelodd yr Arglwydd yn ei ogoniant yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a'i odre yn llenwi yr holl adeilad cysegredig. O'i gwmpas yr oedd cwmni urddasol. Geilw Esaiah hwynt yn seraphiaid—bodau dysglaer fflamllyd : yr un gair ag a gyfìeithir yn " seirff tanllyd " yn hanes yr Israeliaid. Yn mhellach, dywed y proffwyd am y bodau urddasol hyn : —" Chwech adain ydoedd i bob un ohonynt ; â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai." Dyna hwy yn fodau chwechadeiniog, ac i bob adain ei gwaith. Da ddigon fyddai genym wybod rhagor am y bodau hyn. Pwy oeddynt ? Beth oeddynt ? Paham y gelwid hwy yn rhai tanllyd? 0 ba ddefnydd y gwnaed eu hedyn ? Beth ydyw eu hanes ? Pa bryd y daethant i fod ? Pa beth y maent wedi wneyd oddiar hyny hyd yn awr ? Pa mor gyflym y gallant hedeg ? Ai sarhad arnynt fyddai gofyn pa sawl miliwn o filldiroedd y gallant deithio mewn eiliad ? Gallem lanw tudalenau iawer â gofyniadau cyffelyb heb allu ateb yr un ohonynt. Y mae ein hedyn yn rhy eiddil i allu codi yn ddigon uchel i wybod dirgelion a thraethu cyí'rinion seraphiaid chwechadeiniog. Rhaid i ni ymíoddloni ar aros o fewn terfynau y diriogaeth y mae dynion yn byw ynddi. A oes bodau chwechadeiniog yn mysg dynion ? A all dynion feddu chwech adain y seraph ? A raid i ddyn eu meddu cyn y gall fel y seraph droi yn nghymdeithas Arglwydd Ior yr holl ddaear ? Beiddiwn ateb y gofyniadau hyn yn gadarnhaol. Dyn clìwíchadeiniog yw y dyn a ofala ara ei ben, ei draed, a'i ysbryd. I fod yn gyflawn ac i allu cymdeithasu â Duw a'i wasanaethu, rhaid i ddyn feddu chwech adain, dwy i guddio ei ben, dwy i guddio ei draed, a dwy i ehedeg â hwynt. Carem wasgu y gwirionedd hwn at feddyliau larllenwyr ieuainc y Cenad Hedd. 11