Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Owaüh Oyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 107.] TACHWEDD, 1889. [Cyf. IX. Y BERTH YN LLOSGI AC HEB EI DIFA. Exod. iii. 1-10. 'AE hanes Moses yn rhyfedd drwyddo. Ganed ef tua'r amser y dechreuodd cyyfngder mawr Israel. Dysgwyd crefydd iddo yn gyntaf, ac wedi hyny holl ddysgeidiaeth yr Aifft. . Dyna drefh Duw. " Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder Ef." "Cofiayn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctyd." Yn lle troi y Beibl oddi- wrth y plant hyd nes byddont wedi dysgu pethau ereill, dylid eu hegwyddori yn dda yn hwn yn gyntaf. Pa ryfedd fod dynion yn cyfeil- iorni gan eu bod yn cael eu dysgu 0 chwith. Dylid gofalu am roddi yr ysbryd ar y ffordd iawn yn gyntaf, yna dysgu y deall a'r corff. Mae dynion yn gyffredin yn ymddwyn yn wahanol, ac am hyny yn methu dadblygu dyn yn iawn. Cafodd Moses ei fagwraeth a'i addysg ar draul y gorthrymwr. Yr oedd ei ragolygon am gyfoeth, anrhydedd, a mawr- edd y byd yn glir iawn. Fel mab merch Pharaoh, a thywysog yr Aifft, digon tebyg y gallasai gyrhaedd yr orsedd a'r goron. Yr oedd yn caru ei genedl ei hun yn ei gorthrymder, ac yn dymuno ei gwaredu. Ym- ddangosai yn gymhwys iawn at hyny. Meddai ar synwyr cryf, gwroldeb mawr, dylanwad eang, a dywed rhai gryn brofiad ac enwogrwyddmilwrol. Ond yr oedd amryw bethau yn erbyn ei lwyddiant y pryd hwnw. Nid oedd Israel wedi blino yn eu caethiwed nes uno yn un corfi i adael yr Aifft; nid oedd trigolion Canaan wedi cyflawni mesur eu hanwiredd, ac wedi myned mor ddrwg fel nad oedd gobaith am eu gwella. Nid oedd Moses wedi dysgu bod yn bwyllog ac amyneddgar yn wyneb profedigaethau. Lladdodd Aifftiwr ar ychydig iawn 0 brofedigaeth. Ni buasai yn gallu goddef holl rwgnach meibion Israel heb daro yn 0). Cymerodd lawer 0 flynyddoedd i ddysgu bod yr addfwynaf 0 ddynion. Ni buasai yn rhoddi yr holl ogoniant i Dduw pe llwyddasai i waredu Israel, ac i'w harwain yn ddyogel i Ganaan pan oedd yn ddeugain ralwydd oed. 21