Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Gwaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 121.] IONAWR, 1891. [Cyf. XI. LLEFERYDD YNFYD. " Lleferaitt fel y llefarai un o'r ynfydion."—Job ii. 10. >0B oedd y gwr mwyaf 0 holl feibion y Dwyrain. Yr oedd ei gyfoeth a'i ddylanwad yn fawr, ei gysuron teuluaidd yn ddi- fwlch. Ond troes y cwbl yn ei erbyn, a hyny ar unwaith. Y mae yr hyn a wnaeth Satan â Job yn dangos beth a wneJai efe â ni pe caffai ei ffordd. Rhoddodd yr Arglwydd Job yn ei law i'w brofl ef, ac y mae yn trefnu yr ymosodiad yn y fath fodd fel y teimlai Job oddi- wrth bob cwlwm oedd wedi roddi ar y fflangell. Y Sabeaid yn rhuthro i ddwyn yr ychain a'r asenod—tân Duw yn llosgi y defaid—y Caldeaid yn rhuthro i'r camelod, ac yn eu dwyn oll ymaith—gwynt mawr oddiar yr anialwch yn taro wrth bedair congl y tŷ lle yr oedd ei feibion a'i ferched yn bwyta ac yn yfed, fel y syrthiodd ar y plant fel y buont feirw. Pe buasai y genad gyntaf yn dwyn y newydd pruddaidd am y plant, ni buasai yn teimlo nemawr 0 golli yr ychain, a'r asenod, a'r defaid, a'r camelod. Un brwnt ydyw Satan. Gallodd Job addoli yn wyneb yr holl golled, a dywedyd, " Yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr Arglwydd." Llaw yr Arglwydd oedd efe yn weled yn y cwbl. ^Nid yw efe yn sylwi dim ar y Sabeaid a'r Caldeaid, y tân a'r gwynt—yr Arglwydd oedd yn y golwg iddo ef. Y mae Satan yn cael cenad i gyffwrdd yn nes ac yn drymach eto. Gorchuddiwyd ef â chornwydydd blin, 0 wadn ei droed hyd ei goryn. Dacw fe, druan, yn eistedd yn y lludw. Ceisia y gelyn fyned ato yn awr, fel yr aeth at Adda, drwy y wraig, a dyma ei chynghor hi, " Mell- dithia Dduw, a bydd farw." A dyma ateb Job iddi: " Lleferaist fel y Uefarai un o'r ynfydion." CyDghor ynfyd ydyw. Byddai gwneyd hyny yn groes i foneddig- eiddrwydd—yn groes i ddynoliaeth—yn groes i athroniaeth—yn groes i dduwioldeb—yìi groes i'm gwir lesâd personol.