Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Gwaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaìàh. Rhif. 123.] MAWRTH, 1891. [Cyf. XI. RHODDI YN WELL NA DERBYN. "Dedwydd yw rhoddiyn hytr&ch na derbyn."—Aot. xx. 35. jYNA gamsyniad mawr," meddai y diogyn, " derbyn sydd ddedwyddaf i mi—y geiniog dderbyniaf yn well na'r swllt enillaf." Taw, ddiogyn ; gweithiwr diwyd a gofalus lefarodd y geiriau ; nid oedd yn edrych ar roddi a derbyn o'r un safle a thydi. " Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn." " Nage, yn wir," meddai y cybydd, " mae rhoddi yn boen i mi, a deroyn yn iechyd i'm henaid. Moes, moes, i mi." Taw, gybydd ; un o felldithion y byd ydwyt ti. Bendith fawr i'r byd fuasai gweled dy gladdu di, pryd y gorfodir di i roddi i fyny yr hyn sydd genyt. Dyngarwr lefarodd y geiriau, na wyddai ddim am deimlad cybydd. " Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn." " Y mae y frawddeg 0 chwith," raeddai y dyn hunanol, " dedwydd yw derbyn yn hytrach na rhoddi. Yr wyf yn fy ngoniant pan yn derbyn parch oddi- wrth ereill; ond y mae anrhydeddu ereill yn faich arnaf." Taw, greadur hunanol; ystyria pwy lefarodd y frawddeg—un addfwyn a gostyngedig 0 ysbryd. Metha y diogyn, y cybydd, a'r dyn hunanol sylweddoli gwirionedd- olrwydd y geiriau. Y mae yn dda genyf ddywedyd nad yw yr Arglwydd Iesu ddim yn cydnabod bodolaeth y fath gymeriadau yn ei Eglwys. Onid oes dedwyddwch mewn derbyn hefyd ? 0, oes. Profiad y crwydryn newynog pan yn mwynhau pryd da 0 fwyd ydyw, Dedwydd yw derbyn. Galwodd cymydog i weled y claf; llefarodd eiriau o gysur wrtho ; a gosododd anrheg yn ei law. Aeth mwy na haner poen a gofid y claf allan 0 flaen y cymydog. Dedwydd yw derbyn. Daliwyd y dyn mewn rhwyd 0 ddyryswch amgylchiadau—gwell ganddo farw na byw. Daeth cyfaill i'w dynu yn rhydd o'r rhwyd, a dacw ef ar ei draed drachefn. Dedwydd yw derbyn. Mae dedwyddwch derbyn yn fawr, ond y mae dedwyddwch rhoddi hyd y nod yn fwy na dedwyddwch derbyn. " Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn " ydyw profiad pob rhoddwr ewyllysgar.