Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDÛ. "A Gwaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 125.] MAI, 1891. [Cyf. XI. "GLAN DRWY Y GAIR A LEFERAIS I WRTHYCH." 'AE hwn yn ymadrodd 0 enau Gwr ag y mae y pwys mwyaf yn ei eiriau. Nid oes eisieu gofyn meddwl neb arall ar ol clywed meddwl Iesu ar fater, ac nid oes awdurdod yn llefèrydd neb ar bethau crefyddol ond mor bell ag y cytuna â geiriau Iesu. I bawb a gydnabyddant Ddwyfoldeb ei Berson a'i anfoniad, mae ei air Ef yn ddigonol ac yn derfynol ar bobpeth y traetha arno. Ar ddechreu ei anerchiad ymadawol, dywedodd wrth ei un dysgybl ar ddeg, " Na thralloder eich calon." Credwch ynof Fi fel yn Nuw. Hawliai yr un ymddiriedaeth ag a roddent i'r Anfeidrol Dduw. Er dangos iddynt sut na raid iddynt fod yn drallodedig wedi ei ymadawiad buan Ef, dywed yma wrthynt am fywyd ysbrydol a gaent drwyddo Ef, a'r defnyddioldeb crefyddol drwy eu hundeb âg Ef. Efe ei Hun yw eu maeth ysbrydol hwy, fel yr oedd y winwydden i deulu yn y Dwyrain. Megys y trinid hono gan y penteulu, felly y mae Duw Dad yn llafurwr y winwydden ysbrydol, a thrwy hyny yn gofalu am gysur y saint, y rhai ydynt yn gangenau, yn aros ynddo Ef, ac yn dwyn ffrwyth. Mae bod yn nglŷn â Christionogaeth 0 ran athrawiaeth, ysbryd, a gwaith, er mwyn bod 0 fudd a chynydd moesol, yn llawn mor bwysig ag i'r gangen fod yn nglŷn â'r winwydden er cadw ei bywyd llysieuol a dwyn grawnsypiau. " Hebof Fi"—ar wahan oddiwrthyf Fi—" ni ellwch chwi wneuthur dim." Cedwir y saint dan driniaeth er parhad a chynydd ffrwythlondeb. Oddiwrth Ysbryd Crist y cawn nerth a chymhellion i ymdrechu i ddwyn dynion i deimlo am eu cyflwr ysbrydol ac i roddi esiampl iddynt 0 fywyd sanctaidd. Dysgybla Duw y saint i osod eu meddwl ar y gwaith mawr a berthyna iddynt, ac ar y gair a lefarodd y G-waredwr. Er na fydd y driniaeth hon yn fynych dros yr amser presenol yn hyfryd, eto mae ein cysur a'n dyogelwch, yn ogystal a'n defnyddioldeb, yn dibynu ar ein derbyniad ohoni.