Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. " A Owaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 128.] AWST, 1891. [Cyf. XI. LLENYDDIAETH I IEUENCTYD. [OGONIANT ei Grewr ddylai amcan-nod uchelaf pob creadur fod. Dyma ddyben mawr bodolaeth dyn : " Canys i'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef, medd yr Arglwydd." Dadgana ser y nefoedd gyda chysondeb didor ogoniant eu Lluniwr. Nid yw pob blodeuyn unrhyw flodeuyn, eto bydd y lleiaf yn eu plith, a'r mwyaf didywyn ohonynt, yn adlewyrchu rhy wfaint 0 ogoniant cawr y dydd ; ac allan 0 grombil y mwyaf disawr ohonynt fe dỳn y wenynen fêl blasus. Oni bai rhyw allu gwrthwynebol weithiodd ei ffordd yn foreu i'n plith, felly y gwnaem ninau. Daw pob un pan ei genir â'r etifedd- iaeth wrthwynebol hon gydag ef i'r byd, fel nad yw 0 un gwahaniaeth pa faint ddiwyllir ar feddyliau un genedlaeth, rhaid rhagbarotoi yr un peth ar gyfer y rhai a enir. 0 bob adeg i chwynu ffrwyth tueddiadau drwg 0 galon dyn, neu yn hytrach i gyfnewid yr hyn sydd yn dwyn y drwg i fod yn dda, ieuenctyd yw y gyfaddasaf. Y mae moddion ar gael sydd yn medru gwneyd yr hyn sydd fel porffor i fod fel gwlan. Lleng yw y dyfeisiadau sydd wedi eu cymhwyso gan ddynion da yr oesau tuag at arwain meddwl y dyn ieuanc ar hyd y llwybr mwyaf anrhydeddus mewn bywyd. Gellid eu cyfrif oddiwrih ymddyddanion syml yr aelwyd i fyny at resymeg aruchel Paul yn ei epistolau. Yr ychydig latheni cyntaf sydd yn rhoi pwynt ac enw i'r afon : felly by wyd dyn. " Ofn yr Arglwydd," medd Dafydd, " yw dechreuad doethineb." Os adrodd ei hanes ei hun y mae, yr oedd ei ofn ef pan yn llanc yn fawr iawn. Gogoniant ei Dduw oedd ei brif nod. Ein pwnc ni yw, sut i gael ein pobl ieuainc i feddwl am yr un peth ? 0 bob cyfundrefn addysgol roddwyd i'r byd, yr Efengyl yw y gyf- addasaf er dwyn dyn i adnabyddiaeth o'i Greawdwr. Y mae feì y môr, yn foddion i hwylio a chludo llongau eneidiau byd 0 bechaduriaid, ond bodda hwynt hefyd os na chydymffurfiant â'i deddfau cariadlawn. Lle na bydd dynion yn ddigon gwybodus a gwrol i hwylio heibio ei manau dyrys, gellir gwneyd â hi fel y gwneir â'r môr yn yr Iseldiroedd—ei harwain i mewn trwy gamlasau i'r tir i gyfarfod â'r bobl weiniaid a dyfal vn mhethau y byd. Ì5