Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 130.] HYDREF, 1891. [Cyf. XI. CYMYNRODD CRIST. 1' Yr wyfyn gadael i chwi dangnefedd."—Ioan xiv. 27. >EL y byddai i Fab Duw fod yn Archoffeiriad trugarog a ffyddlon i'w Eglwys, gweddus oedd iddo gael ei wneuthur yn mhob peth yn gyffelyb i'w frodyr. O'i gryd i'w fedd, gwelwn ynddo ef Fab y dyn yn gystal a Mab Duw. Pan wybu ddyfod o'i awr i ymadael o'r byd at y Tad, cawn Ef yn ymddwyn fel llawer o'i frodyr ar wely angeu. Meddylia am y cyfeillion caredig y mae ar eu gadael, ac ymflina o'u herwydd. Geilw hwy o'i amgylch i ganu yn iach iddynt. Yn y geiriau tyneraf fedd iaith, dywed am yr olygfa drist yr ä drwyddi yn fuan ; sicrha nad ysgara angeu rhyngddynt a'i gariad Ef; cysura hwyut â'r hysbysiad y caent ei weled drachefn ryw ddiwrnod; cyflwyna hwy i'w Dad, ac erfÿnia iddynt y bendithion goreu. Ac nid dyna yr oll. Gwna ei ewyllys, ac adgofìa hwynt o'r doniau gwerthfawr fwriadai roddi iddynt; nid arian, aur, na thir, ond trysor na fedr arian ac aur ei brynu. " Fy heddwch yr wyf yn ei roddi i chwi." Pa beth yw yr Heddwch hwn ? Chwilir yn fanwl i ewyllys un na fedd ond pethau daearol a darfod- edig i'w rhoddi. Na chyfrifwn yn ddibwys yr hyn a ewyllysia perchenog holl drysorau nefoedd a daear i'w bobl. Pa beth a fedr gynhyrfu teiml- adau mwy dymunol yn nghalon dyn na'r gair heddwch? Mae mor felus a'r traeth i'r morwr blin gan beryglon y mor. Mae mor adfywiol a'r awel iach i un newydd adael ei glaf-wely. Mor weddaidd ar y mynydd- oedd yw traed yr hwn a gyhoedda heddwch i genedl wedi ei rhwygo gan ryfel. Ond nid dyn gyhoedda yr heddwch hwn. Heddwch rydd yr Anfeidrol ydyw. Anfonodd ei Fab ei Hun i'w gvhoeddi; gelwir y Mab hwn yn Dywysog Heddwch. Nid heddwch â'r byd drwg feddylia. " Yn y byd gorthrymder a gewch." " Nid yw y gwas yn fwy na'i arglwydd." Casawyd yr Arglwydd gau y byd. J9