Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

(DRNAE) HEDD. *' A Owaüh Gyfiawnder fydd Hbddwch."—Esaiah. Rhif 291.] MAWRTH, 1905. |"Cyf. XXV. 'R HEN DOM." jEDI ysgrifenu'r penawd, bûm enyd cyn medru ysgrifenu dim arall. Tybiwn fod rhywbeth yn eisieu ynddo, ac nis gwyddwn yn iawn pa beth. I tni, ymddengys mor llipa ar bapyr, bron hyd at fod yn ddirmygus o ddisut; ac y mae rhywbeth yn dyweyd wrthyf na fydd fymryn gwell mewn "preint," os cystal. Ehyfedd y gwahaniaeth sydd rhwng dyweyd ambell i •ùr a'i ysgrifenu ! Pe medrwn roi'r cwbl sydd yn y nailì i mewn yn y hall—pe medrwn wneyd i'r penawd acw fynegi holl deimladau fy nghalon, a throi yn "gyfieithydd tafodau " mewn gwirionedd—pe medrwn daflu iddo gynefindra blynyddoedd, a serch hnner oes, a hiraeth sydd i'w fesur wrth ei ddyfnder, ac nid wrth ei hyd ; yna, byddai ei ymddangosiad yn weddnewidiad—y ddau air sydd yn ei wneyd i fyny yn debyg i Moses ac Elias ar ben y mynydd, a'i lythyrenau yn adlewyrchu gogoniant yr ysbryd sydd yn ei gyfrinach. Ond waeth i mi dewî na siarad, gan na fedraf. Ac eto, iywsut neu gilydd, nid wyf am ei newid. Mi a wn beth a wnaf : mi a'i murmtiraf dan fy anadl tra yn ysgrifenu, fel cyfeiliant i unawd ; neu mi a'i bloeddiaf yn uchel pan redir fy ysgrif- bin allan o wynt gan amlder fy adgofìon—nes y gwisgir ef â " newid dillad," y deil beth o wreichion yr ysbrydiaeth sydd ynof, ac y cyll at y diwedd ei ymddangosiad llwm a ílipa presenol, i mi ac i chwithau. " 'R Hen Dom ! " " 'R Hen Dom ! " Ni allaf synio am danat wrth im enw arall. Mewn "llety fforddolion " yn mhentref Llanfair Bryn Meurig y gwelais ef gyntaf, dros chwarter canrif yn ol. Yr oedd ef a minau yn brentisiaid o bregethwyr, a'n gwynebau ar yr un athrofa. Taflai diwrnod yr arholiad ei gysgod drosom ill dau, er mai efe deimlai y pwysau drymaf. Yr oedd wedi bod dano o'r blaen; a rhwng y methiant cyntaf a'r ail brawf oedd mor agos, yr oedd yn gyfyng arno o'r ddeutu. Yr wyf yn cofio'n dda iddo ddyweyd ragor nag unwaith