Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GENÄD HEDD, '* A Owaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif 300.I RHAGFVR, 1905. |"Cyf. XXV. SYR GEORGE WILLIAMS, SYLFAENYDD Y Y.M.C.A. ID yw yn debyg fod neb o'n darllenwyr heb wybod rhywbeth am y Gymdeithas werthfawr a ddynodir gan y llythyrenau uchod—Cymdeithas Gwŷr Ieuainc Cristionogol, yr hon y mae ei changenau wedi ymledu di os y ddaear i gyd. Y gwr da y mae ei enw uchod oedd ei sylfaenydd, a bu farw yn Toiquay dydd Llun, Tachwedd 6ed, yn 84 oed. Mae yn sicr y bydd ychydig o ffeithiau am dano yn dderbyniol gan bawb. v Mewn lle o'r enw Dulverton, yn swydd Somerset, y ganwyd ef, yn y flwyddyn 1821. Amaethwyr parchus oedd ei rieni: ond o'r dectíreu nid oedd ganddo ef duedd at fywyd amaethyddoi. Pan tua 15 oed, gyrwyd ef 1 Bridgewater, yn yr un sir, i fod yn egwyddorwas mewn siop ddillad. Yr oedd o'r dechreu yn fachgen bywiog, diddiogi, parod, ac ufudd. Yr oedd ganddo hefyd ewyllys gref, a phender- fyniad i ragori fel masnachwr, yr hyn a wnaeth i raddau na wna ond ychydig. Pan yn egwyddorwas yn y lle hwn y rhoddodd ei hunan i Dduw am y tro cyntaf, ac amlwg yw ddarfod iddo wneyd hyny yn llwyr. Dechreuodd yn bur fuan gasglu nifer o'i gyfeillion ieûainc oedd gydag ef yn y siop i'w ystafell wely i gynal cyfarfod gweddi yno gyda'u gilydd, ac ambell dro ddosbarth Beiblaidd. Rhaid fod anian newydd wedi ei phlanu ynddo na ellid ei boddloni heb borthiant ysbrydol cyson, ac na roddai lonydd iddo ef heb ei fod o hyd yn cynllunio, er yn ieuanc ac anaddfed, sut i lesoli ereill. Yn y fìwyddyn 1841 aeth i Lundain. Yr oedd yno gyfaill i'w deulu, o'r un ardal, eisoes wedi ymsefydlu mewn masnach fel draper yn ymyl St. Paul's, o'r enw George Hitchcock. At hwnw yr aeth efe, a thyfodd cyfeillgarwch mawr ar unwaith rhwng y ddau, er ei fod ef yn ieuengach o rai blynyddoedd na'ifeistr. Wedi ymsefydlu yno, pen- derfynodd ddilyn ei ymarferion crefyddol, a pharhau ei ymdrechion i