Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GENÄD HEDD. ■ " A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif 277O " IONAWR, 1904. [Cyf. XXIV. (JREFYDD YN Y TEÜLU. DDYDD i ddydd, cryfha y farn yn mysg dynion da mai un o angenion mwyaf y cyfnod pwysig hwn yw, rhoi mwy o bwys ar grefydd yn y teulu. Ofnir y ceir llawer o deuluoedd na thelir ynddynt ond ychydig iawn o sylw i hyn ; ä ein haelwydydd i gael eu llywodraethu fwy-fwy gan ysbryd trwyadl fydol, heb ond ychydig, neu ddim, o gydnabyddiaeth o rwymedigaethau crefyddol. Dadleuir prýsurdeb, a blinder corfforol, &c, ond ofnwn mai y gwir reswm yw diffyg ymdeimlad o bwysigrwydd y ddyledswydd. Mae rhywbeth yn ysbryd yr oes sydd yn difa yr ymdeimlad yna, ac yn peri i lawer ymwrthod yn rhy hawdd a pharod â rhai o'u pethau goreu. Mor wir y mae hyn, fel y mae miloedd o deuluoedd yn cael eu magu yn ein gwlad heb ond ychydig neu ddim o sylw i grefydd, er nad yw ein masnachdai yn agored am gynifer o oriau ag yr arferent fod, na'n gweithwyr yn treulio llawn cymaint o amser yn y gweithfeydd. Er hyny, erys y ddyledswydd yr un yn ei phwysigrwydd, ac nid oes eisieu cynyg ymddiheurad o fath yn y byd am alw sylw neillduol ati. Efallai fod eisieu cywiro syniad rbai am ystyr crefydd yn y teulu. Rhydd rhywrai ystyr rhy gyfyng o lawer i'r ymadrodd. Yr hyn a olygant wrtho yw, yr hyn y sonir am dano weithiau fel " cynal dyledswydd"—darílen a gweddîo gyda'r teulu. Cynwysa hyny, yn ddiddadl, ond cynwysa hefyd lawer mwy. Un ffurf ar grefydd yn y teulu yw darllen a gweddio; ffurf bwysig iawn yn sicr, ond y mae ffurfiau ereill pwysig heblaw hi, ac nid yw hi ond dibwys hebddynt. Cymer ereill addysg Feiblaidd i fewn gyda chynal y ddyledswydd, ac ystyriant eu bod wedi gwneyd yr oll ond gwneyd hyny. Y mae cyflwyno addysg Feiblaidd yn bwysig iawn hefyd, a chynwysa grefydd yn y teulu hyny yn ddiddadl, ond cynwysa lawer yn ychwaneg—cynwysa gadw y syniad o gyfrifoldeb i'r Duw byw, y Creawdwr a'r Cynaliwr