Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

OENÄD HEHDIf). " A Gwaifh Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif 281.] MAI, 1904. [Cyf. XXIV. DR. HENRY. Y DIWYGIWR DIRWESTOL. MAE i'r gwr da uchod le anrbydeddus yn mysg diwygwyr Dirwestol yr oes. Nis gwn am neb. ar hyn 0 adeg, a deilynga yr enw yn fwy nag ef. Americanwr ydyw, ond fod ei hynafìaid, o ochr ei dad, wedi deilliaw o'r Iwerddon. Magwyd ef mewn amaethdy yn Iowa ; daeth ar ol hyny yn ysgolfeistr, ac yna i'r weinidogaeth yn mysg y Bedydd- wyr. Cafodd addysg athrofaol dda, a bu yn weinidog llwyddianus am agos i 18 mlynedd. Yr oedd ar hyd ei weinidogaeth yn llawn o ysbryd diwygiadol, ac yn arwain gyda mudiadau da lle bynag y byddai. Yr oedd o'r dechreu yn un o wrthwynebwyr cryfaf a mwyaf llwyddianus y fasnach feddwol; ac yn y diwedd, perswadiwyd ef i roddi i fyny ei weinidogaeth sefydlog er mwyn ymladd y fasnach hon.