Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

C3RMAE) HEDD. " A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhtf 306.] MEHEPIN, 1906. [CyF. XXVI. RHAI 0 OLYGFEYDD Y DIWYGIAD DIWEDDAF. WLAD y Cymanfaoedd glwithol Yn parhau yw " Cymru Lan," Gwlad y Diwygiadau nerthol, Magwrfeydd y Dwyfol dân.— Losgodd drwy gilfachau'i chalon Ddyddiau'n ol, nes gwynu'i gwawl; Tra emynau swyngar Seion, Genid gan ei phreswylyddion, Yn troi pob-lle'n fôr o fawl. Teimlid trwy ein Tywysogaeth Weithrediadau'r Ýsbryd Glan ; A chawodid ar bob talaeth Wreichion o'r nefolaidd dân ; Trowch am f^myd eich golygon Acw i 1904 ; Yno gwelwch anwar ddynion, Law yn llaw â'r pererinion, Yn cyd-gwrdd i foli'r Ior. Seiniau " Marching up to Zion " Lwybrent trwy rodfeydd pob clust, O wefusau plant afradlon, Gwawdwyr ffydd, a gwadwyr Crist. " O ! am nerth i dreulio'm dyddiau Yn nghynteddau tŷ fy Nhad," Gwaeddai rhywun ar ei liniau, A swn torf o frwd Amenau'n Cerdded drwy borfeydd mwynhad. O ! Ddiwygiad bendigedig ! Ceid cwrdd gweddi yn mhob man,