Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GENÄD HEDD. " A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhtp 323.] ' TACHWEDD, 1907. [Cyf XXVII. Y FAM IAWN. iYWBDAI Timothy Dwight, un o dduwinyddion galluocaf a mwyaf hyawdl America yn ei ddydd : " Y mae fy atebiad i'r gofyniad, ' Pa fodd y'm haddysgwyd,' yn diweddu lle y dechreuodd—yr oedd genyf y fam iawn." Hawdd ydoedd der- byn ei atebiad, canys merch i Jonathan Edwards oedd ei fam ragorol ef; a chyda bod ei atebiad yn un hawdd i'w gredu, yr oedd hefyd yn un hawdd i'w edmygu. Nid oes addysg gyffelyb i add^^sg y fam iawn. Y mae hon yn ddyrchafol i'r meddwl. a'r chwaeth, a'r serch, ac yn addurn i'r wisg, a'r wedd. a'r b^^wyd oll. Nid bywyd cyfîredin ydyw yr un sydd wedi cael, a manteisio ar, addysg y fam dda—y fam iawn. Gwyn ei fyd y bywyd sydd wedi cael y fraint o dyfu o dan ddylanwad y cyfryw addysg ! Y mae ei seiliau 3^n gedyrn, ei egwyddorion yn ddyogel, a'i bosibilrwydd yn ardderchog, ac nid oes ball i'w fuddioldeb. Canys y mae y fam iawn yn fam grefyddol. Heb fîydd yn yr Anweledig, a chariad at y Ceidwad, a gras i fyw yn dduwiol, nis gall mam fod yn fam iawn. " Nid yw dyn digrefydd, er yn alluog, ond engraifft o ddynoliaeth dlawd a didwf, ac nid yw y fam anghref- yddol yn haner mam." Y mae i'r fam dduwiol swyn a dylanwad ac anfarwoldeb na pherthyn i'r fam ddigrefydd. Nid yw coffad- wriaeth y fam dda byth yn colli ei barch, na'i henw yn peidio bod yn anwyl. Yn awyrgylch crefydd Crist y mae ei natur a'i chy- meriad hi yn ymddadblygu i'w gwir ogoniant. Wrth lais ei Cheid- wad y mae y fenyw wedi codi i'w hanfhydedd, ac ymddangos yn ngwisgoedd teg ei llawn rinweddau. " Herlodes, cyfod," oedd y gair a lefarodd ac a lefara Efe wrthi hi—cyfod i uchder parch, i eangder rhyddid, i urddas teg a thyner gras a gwirionedd. Ac