Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. I. HYDSEF, 190°- Rhif 7. DELFRYDAU CREFYDDOL. EGLWYS CEIST YN Y BYD. holl wawdiaeth gelynion y mae yn ffaih fod gan yr Arglwydd eglwys yn y byd ; ysbrydoedd dewisol y mae yn wiw ganddo Ef eu harddel a'u bendithio. Ffaith hanesydol nas gellir ei gwadu yw fod Crist wedi sefydlu iddo Ei Hun eg- lwys ar y ddaear, a pharha yr olyniaeth o saint hyd yn awr. Sylfaenodd Efe tn ar Ei eiriau, Ei esiampl, Ei farwolaeth, h adgyfodiad, a'i eiriolaeth. Amcenir cry - hoi yr holl bethau sydd yn y nefoedd f«i ar y ddaear ynddo Ef fel y caffer un teuîu dedwydd, lle y bydd safleoedd pawb jv gydradd, a breintiau pawb yr un. ~£n y eglwys y sylweddola Duw eto ei ddelfryd o gymdeithas heddychol, ufudd, a dedwydd. Ac y mae sylweddoliad y delfryd yn sicr. Gallem feddwl mai y sicrwydd hwn a dan- iai galon yr apostol yn y geiríau b-ir.y "Gan ddiolch i'r Tad yr hwn a'n gwiaeih ni yn gymhwys i gael rhan yn etifeddíaeth y saint yn y goleuni; yr hwn a'n gwared- odd ni allan o feddiant y tywyllwch ac a'n symudodd i deyrnas ei anwyl Fab, yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau: Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur; canys trwyddo ef y crewyd pob dim ar y sydd yn y nefoedd ac ar y ddaear, yn weledig ac anweledig, pa un bynag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysog- aethau, ai meddianau, pob dim a grewyd trwyddo ef ac erddo ef. . . . Ac efe yw pen corff yr eglwys." Yn yr adran a ddifynwyd uoda yr apostol amryw o ystyr- iaethau a'i sicrha o sylweddoliad bwriad Duw gyda golwg ar yr eglwys. Yn gyn- taf, y mae y gwaith wedi ei ddechreu, "a'n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch," &c; ac y mae y dechreu yu sicrhau ei orpheniad. Yn ail, y mae mewn meddiant o'r moddion arbenig angenrheid- iol i'r gwaith : "Yn yr hwn y mae i ni b'ryn- edigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau." Yn drydydd, y mae pob galìu yn y cyfanfyd o dan dreth i gyrbaedd hyn, ''thronau, arglwyddiaethau," &c. Eto sicrheir yr apostol yn ei hyder wrth sylwi mai hyn yw amcan mawr pob creadigaeth, "pob dim a grewyd .... erddo ef;" ac yn olaf, y nrae cysylltiad Crist a*r eglwys yn gwneyd hyn yn sicrwydd diysgog, "ac efe yw pen corff yr eglwys." Dylai 6icrwydd' fel hyn ynghylch y dy- fodol ysgogi yr eglwys i weithgarwch mwy calonog yn mhlaid amcan ei Harglwydd. Yr ydym yn ymladd gyda'r ochr sydd yn myn'd i gario'r dydd. Byddwn ddyfal i gario allan gomisiwn Crist. Ymaflwn o ddifrif yn ein gwaith o lefeinio cymdeíthas ymhob man a gwybodaeth yr Arglwydd Iesu.