Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. I. mÄUJSTfl, 1901. $hiî 12 DELFRYDAU CREFYDDOL GWEINIDOGAETH IOAN FEDYDDIWR. Wií GWBL anisgwyhadwy un diwr- nod, wele un o Ddwyfol anfoniad .==, vn tori allan o'r anialwch, yn arw 3. gwyllt ei ymddangosiad, yn codi ei lef yn niffaethwch Judea, gan ddywedyd fod teyrnas nefoedd gerllaw : "Ac yn y dydd- ihii hyny, y daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffaethwch Judea,a dywedyd, Edifarhewch, canye nesaodd teyrnas nef- oedd." Yr oedd llais y prophwydi wedi distewi er's oanrifoedd, a'r genedl yn y towelwch hwnw wedi myned i gysgu mewn Ihgredd ac anfoesoldeb; ond y mae gweinidogaeth lem ac awdurdodol Ioan yn aeffro y wlad; ei ddull newydd o fedydd- io yn yr Iorddonen yn awgrymu i'r bobl fod eisieu eu puro a'u glanhau yn gwbì oll. Baich gweinidogaeth Ioan oedd dysgu y bobl fod yn rhaid eu diwygio a'u paro- toi ar gyfer ymddangosiad yr Un mawr. Yr oedd efe yn rhagredegydd o fìaen ei wyneb. Nid galw sylw y bobl ato ei hun cedd Ioan, ond creu disgwyliad yn eu meddyliau a.m Grist, yr hwn oedd ar ddy- íod. Bu ei weinidogaeth fer yn hynod n iwyddianus; cynhyrfodd feddwl y genedl o Dan i Beersheba, a thynodd Jerusalem a'r holl wlad oddiamgylch wrth y miloedd i lawr at kuau tawel yr Iordioneoi. Cod- odd gweinidogaeth Ioan Fedyddiwr j genedl ar ei thraed mewn disgwyliid ain y Messiah addawedig, yr hwn yv oedd Duw wedi ei addaw trwy y prophwyro. Neb llai nag Ioan wnelai y tro i gyflawni y gorchwyl oedd gan Dduw ar ei gÿi<i- Mae Duw yn amlwg iawn drwy yr oes.'.» a'r cenedlaethau i godi dynion i dros- glwyddo ei feddwl a'i fwriadau grasol i fyd euog a cholledig. Daw yr egwyddor hon i'r golwg dan yr Hen Gyfamod; ni chaniata ein gofod y tro hwn ond ei chry- bwyll. Dyna genedl gyfan mewn caeth- iwed yn yr AipUt; ond, er ei bod yn rhwyni, yr oedcì Duw we<ti sicrhau y bydd- ai yn oael ei gwaredu. I'r gorchwyl hwn ìr-ae Duw yn anfon Moses yn Waredwr ac arweinydd am ysbaid deugain mlynedd yu yr Anialwch. Yn olynydd wele Josua— rhyfelwr i oresgyn y wlad addawedig. Gwelwn, beth bynag oedd angen y genedl, fei yr oedd Duw yn darparu ar ei chy- fer, drwy roddi iddjart arweinwyr, barn- wyr, offeiriaid, brenhinoedd. a paro- phwydi, pa rai fuont ser disglaer yn ffurfafen yr Hen Gyfamod. Felly hefyd dan y Cyfamod Newydd. Dyma Seren foreu ffurfafen y Cyfamod Newydd yn Ioan, y Bedyddiwr: "Y'mhlith plant gwragedd ni ohyfododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr."