Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GWLADGARWR ' CAS GWR NA CHARO * Y WLAD A'I MACO." Rhifyn 2. CHWEFROR, 1843. PRIS 2 GEINIOÖ. YMDDANGOSIAD YSBRYDION A DRYCH- IOLAETHAU. Yn y cynamseroedd, pan oedd tywyllwch an- wybodaeth yn gordoi ein gwlad, yr oedd nifer lluosog o dybiau ofergoelus yn ffynu yn gyff- redìnol, ond fel y mae goleuni gwyddiant a gwybodaeth yn ymledaenu, y mae yr ofergoel- ion hyn yn raddol yn darfod. Un rhyw o'r ofergoelion yma oedd ymddangosiad ysbrydion a drychiolaethau. Ceir Uawer yn y dyddiau hyn svdd yn credu yr athrawiaeth yma eto, yn gystaí a'r chwedlau ffol yn nghylch canwyll cyrph,/ac/: o lantliern, tylwyth teg, &c.; ond ymwrthodir â'r cwbl gan y dyn sydd â'i feddwl wedi ei oleuo gan oleuni gwyddiant. Yn awr, gan fod cynifer yn credu yr hyn nad oes un sail yn natur i'w dybio, ni fyddai yn anfuddiol i ni geisio chwilio pa amgylch- iadau a roddasant fòd i'r dybiaeth gyffredinol a chyfeiliornus hcn. 1. Un peth ag sydd wedi rhoddi bôd i'r dybiaeth o Ymddangosiad Ysbrydion, yw,ffug meddyliol, hyny yw, dychymygion y meddwi yn ymddangos fel gwrthddrychau gwirioneddol. Gall hyn gael ei effeithio gan ddyrysni medd- yliol, neu gan ryw anhwyldeb corphorol yn eff- eithio ar y meddwl, megys clefydau, anhwyl- derau y giau yn gyffredinol, a phethau ereill. Y mae anhwyldeb meddyliol yn cynyrchu rhith-ddangosiadau. Dywed pob gorphwyll- ddyn (lunaiic) wrthych ei fod yn eu gweled, a chyda gwirionedd; y maent yn ymddangos- iadol yn weledig i'w olygon anmharedig. Yr ydym yn credu mewn gwirionedd mai yr achos yma, sef gwallgofrwydd, sydd wedi rhoddi bód i'r rhan fwyaf o'r hanesion a gawn yn nghylch ymddangosiad a gweithrediadau ysbrydion a drychiolaethau. Y mae y rhan fwyaf o lawer o'r ysbryd helyntion a gofrestrwyd erioed, wedi eucysylltuâ phenboethni mewn materion cref- yddol; ac a all fod amheuaeth bod y creaduriaid hyny, dyniou a gwragedd, a ddarostyngent eu hunain yn nghanrifau boreol yr eglwysi i gael eu rhwygo a'u dryllio, ac a welsant arwyddion a rhyfeddodau, yn bersonau â'u meddyliau wedi dyrysu ychydig? Y mae St. Theresa, yr hon a fu ddyddiau cyfain mewn Uesmair, a'r hon yn ngwresogrwydd ei duwiolder a ddychym- ygai ei bod yn fynych yn cael ei chyfarch gan lais Duw, ac y gwnai ein Hiachawdwr, St. Pedr, a St. Paul, yn fynych yn bersonol ym- weled â hi, yn anghraifft o'r fath yma o wall- gofrwydd. Fod hon, ac ereill cyffelyb iddì, yn berffaith gall mewn pethau ereill, sydd yn beth rhy gyffredin yn meddyg-ddysg y meddwl. i beri unrhyw syndod. Dywedwn eto, y prìodol- em nifer mawr o ysbryd-helyntion, gan gynwys y rhai crefyddol, i ddyrysni meddyliol. Gall y llygad, yn y fath anghreìfftiau, gymeryd i mewn argraphiad cywir o wrthddrychau allanol, ond nid hyn yw yr oll sydd yn angenrheidiol. Y mae canfyddiad cywìr gan y meddwl yn han- fodol i olwg iachus a naturiol, a'r canfyddiad yma nis gall y meddwl dyrysedig eì effeithio. Gall ystól â thair coes y pryd hwnw ddyfod yn angel penliniol. Dylid ystyried y personau hyny, gan hyny, nid fel twyllwyr, ond fel cre- aduriaid truain a gamgymerasant bethau na- turiol am bethau goruwchnaturiol. Ond y rhith-ddangosiadau drychiolaethol ag sydd wedi gwneyd yr argraphiadau dyfnaf ar ddynolryw, nid ydynt wedi cyfodi oddi ar an- hwyldeb meddyliol ar ran y canfyddwr. Y mae y gwallgofddyn yn dueddol i fradychu ei sefyllfa, ac ar o\ unwaith ganfod hyny, nid yw ei weledigaeth ef o ddim pwys. Y pethau ag y rhoddir fwyaf o gred ynddynt yw y rhai hyny a gyfodant yn achlysurol yn y meddwl oddi wrth anhwyldeb corphorol. Un o'r rhai hyn yw hwnw a elwir delirium tremens. Y mae hwn yn gyffredin yn cael ei achosi gan barhaus afradlonrwydd. Yr argoel gyntaf yw ychydig o anmhariad galluoedd iachus y synwyrau o glywed a gweíed. Y mae ychydig o sẃn yn y clustiau yn debygol yn cymeryd lle; yna y mae unrhyw sŵn cyffredin, megys trwst cert ar yr heol, yn troi i ryw sŵn neillduol, ac fe allai yn trefnu ei hun i ryw dôn, neu i ryw eiriau penodol, i'r clyw; ac yn fuan seiniant yn y glust ar. ddychweliad pob swn. Yn yr amser yma y mae ei syriwyr o weled yn de- chreu dangos anhwyldeb cyfartal. Y mae lluniau yn symud o'i flaen ef yn barhaus pan y mae ei lygaid ef yn gauedig yn y nos. Yn y dydd y mae gwrthddrychau yn ymddangos i fod yn ymsymud o'i flaen ef ag ydynt mewn gwirionedd yn sefydlog. Y mae y synwyrau