Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GWLADGARWR. 1 CAS GWR NA CHARO ' Y WLAD A'I MACO." Rhifyn 3. MAWRTH, 1843. PítlS 2 GEINIOG* YMDDANGOSIAD YSBRYDION A DRYCH- 10LAETHAU. fPa-hâd tudal. 13.) Yn ein rhifyn blaenorol sylwasom rnai un ara- gylcbiad sydd wedi rhoddi bôd i'r dybiaeth o yraddangosiad ysbrydion, &c, yw ffug neu rith meddyliol, hyny yw, dychymygion y medd- wl yn ymddangos fel gwrthddryehau allanol a sylweddol, yr hyn a achosir gan ryw anhwyl- deb, meddyliol neu gorphorol. Dan y pen yma eto y gellir rhestru breu- ddwydion, y rhai sydd wedi bod yn burlwydd- iannus i ledaenu a chadarnhâu yr athrawiaeth o ddrychiolaethau. Pan y mae y meddwl dan ddylanwad breuddwyd, y mae yn ei ystyried ef yn beth mor sylweddol a gwirioneddol ag unrhy w weithred neillduol pan y mae yn effro ; ac o ganlyniad, pe buasai i ddyn o feddwì of- ergeelus gwan gael breuddwyd bywiog ag y teimlai gryn ddyddordeb ynddo, gallai dderbyn argraph mor ddofn fel ag i fod wedi ei argy- hoeddi yu gadarn ei fod wedi gweled yn wir- ioneddol á'i lygaid yr hyn na ddarfu ond yn uuig gyfodi yn ei ddychymyg; yn euwedig pan ystyriwn fod weithiau dymorau o hepian, pan nad ydym yn gydwybodol ein bod yn cysgu. Ar yr egwyddor yma y mae rhai wedi ymdrechu rhoddi cyfrif am y drychioìaeth yr hwn y dywedir a ymddangosodd i Brutus. Dywedir, pan yr oedd yn Philipi, y noson cyn iddo wneyd rhyfel âg Augustus Cesar, iddo weled drychiolaeth dychrynllyd. Yn nghanol y nos, pan yr oedd yr hoîi wersyll yn dawel, yr oedd Brutus yn ei babell yn darllen wrth lamp ag oedd bron a diffoddi. Yn ddisymwth tybiodd iddo glywed swn, megys pe byddai rhywun yn dyfod i mewn, a chan edrych at y drws efe a'i gwelodd yn agored. Safodd delw cawraidd, gyda golwg arswydus, o'i fiaen ef, a pharhaodd i syllu arno gyda llymder dystaw. O'r diwedd cafodd Brutus nerth i siared âg ef: " A wyt ti yn ddyn marwol, ai ysbryd? a pha ham yr wyt yn dyfod ataf fi ?'' Dywedir i'r drycbiolaeth ateb, " Brutus, myfi yw dy swyn- wr drwg di; tydi a gai fy ngweled i eto yn Philipi." " Wel, ynte," atebodd Brutus, heb fod yn aflonydd, "nyni a gawn gyfarfod eto.'' Ar hyn y drychiolaeth a ddiflanodd, a Brutus, gan aiw ar ei weision, a ofynodd iddynt a wel- sent hwy ddim, a phan yr atebasant yn nacaol efe a ail-ddechreuodd ar ei fyfyrwaith. Ad- roddir yr amgylchiad yma gan haneswyr fel gweîedigaetìi, ond wrth ystyried vr amgylchiad- au, gellid yn hawdd ei farnu i fod yn ddim am- gen nâ breuddwyd byr; o herwydd, gan eis- tedd yn ei babell, yn brudd a thrallodus gan erchylldod ei weithred ddibris ddiweddar, nid oedd yn anhawdd iddo, gan hepian yn yr oerfel, freuddwydio am yr hyu a'i harswydai fwyaf; yr hwn ofh, fel yr oedd yn raddol yn ei ddeffro, felly yr oedd yn rhaid iddo yn raddol wneyd i'r drychiolaeth ddiflanu ; a thrwy nad oedd gan- ddo ddim sicrrwydd iddo gysgu, nis gallai fod ganddo ddim rheswm i gredu mai breuddwyd oedd, na dim amgen nâ gweledigaeth. Pa beth bynag a ellirei ddywedyd o barthed i'r deongliad yma o'r amgylchiad, sicr yw, bod breuddwydion, pan fyddai y meddwl mewn rhyw gyflyrau neillduol, wedi cael eu camgy^ meryd am ddrychiolaethau gwirioneddol, o'r hyn y gellid dwyn amrai anghreifftiau, pe can- iataai ein terfynau. Yn nesaf at ffug meddyìiol. gallwn nodi ffugion tremawl a gwelediad aneglur. Y mae yn sicr fod hyn, raewn llawer o anghreifftiau, wedi bod yn achos o fraw, a wedi cjmyrchu cred mewn gweledigaethau goruwchnaturiol. Y mae y fath rith ddangosiadau yn dygwydd yn aml pan y mae dynion yn cerdded trwy an- ialwch, neu leoedd unig, wedi eu hamgylchu gan niwl, neu yn y cyfnos, pan y gall coeden unig, twmpath, hen glawdd, crug o geryg, dafad neu fuwch, yraddangos fel drychiolaeth anferthol o faint. Dywed un ysgrifenydd ei fod yn croesi ysgraff (ferry) un bore tra niwl- og. Er nad oedd y dwfr ond dwy filldir o led, ni chyraeddodd y cwch i olwg yr ochr arall nes iddo ddynesu yn bur agos ati; yna er ei syndod, gwelodd graig fawr unionserth, lle y gwyddai fod y lan yn isel a gwastad. Fel yr oedd y cwch yn dynesu ychydig yn nes, ymddangosai y graig i fod yn hollti yn union- s)Tth i ddosranau, y rhai a ymwahanent ychyd- ig oddi wrth eu giìydd; gwelodd y gwahan- ranau hyn yn y lle nesaf yn yms)Tnud, a wedi dyfod ych^dig yn nes, cafodd mai nifer o bobl yn sefyll ar y traeth oedd yno, yn dys- | gwyl dyfodiad y cwch.