Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GWLADGARWR 1 CAS GWIl NA CHAIIO 'Y WLAD A'I MACO." Rhifyn 5. MAI, 1843. PítlS 2 GEINIOO- HANES YR EGLWYS. Yn amser ymddangosiad Crist ar y ddaear,* yr oedd tir Judea wedi ei ddwyn i'r sefyllfaofod yn dalaeth Rufeinig, ac yr oedd ei ph'obl, yr luddewon, mewn cyflwr nid yn unig o ddiradd- iad gwladwriaethol, ond hefyd o ddiraddiad dwfn moesol. Yr oedd eu crefydd, fel yr ym- ddengys oddi wrth bob hanes, wedi ymddirywio o'i nodweddhynafiaethol ac uchel, ac yn bodoli yn unig fel cyfundraeth o ddefodau gwag allanol yn nwylaw offeiriadaeth, llygrediüf i'r graddau pellaf. Yr oedd tywysogion y bobl a'r arch- offeiriaid, yn ol hanes Josephus, yn bersonau o arferion anfad, y rhai a brynasent eu lleoedd trwy lwgr-wobrau (bribes), neu weithredoedd o ddrygioni, a'r rhai a fyntumient, mewn ymos- tyngiad i'r llywodraeth Rufeinig, trwy dros- eddau ysgeler. Nid oedd y bobl, wedi eu heffeithio gan siampl eu penaethiaid, yn llai llygredig mewn moesau; ac mewn ystyr gellir deall bod yr holl genedl mewn cyflwr o an- nhrefn dosturiol. 1 fwyhá'u cythrwfl y bobl, rhenid hwynt i wahanol bleidiau, y rhai yn ol fel yr esgeuiusent hanfodolion ffydd ac ymar- weddiad crefyddol, a dreulienteuhamser mewn dadleuaeth yn nghylch pethau o ychydig bwys. O'r rhai hyn yr oedd tri mewn llawer mwy o fri nâ'r lleill, gyda golwg ar rif eu hymlynwyr, a'r pwys a'r awdurdod a gyraeddasent: y rhai hyn oedd y Phariseaid, y Saduceaid, a'r Es- seniaid. Y prif wahaniaeth barn yn mhlith y sectiau blaenaf hyn a berthynai i'r deongliad oedd i'w roddi ar ehiau yr Y'sgrythyrau ISant- aidd ; a ni ymddangosai un o honynt i gael llesoldeb gwir grefydd mewn golwg. Y goreu o'r tri oedd yr Esseniaid, y rhai a annghymer- adwyent rodres mewn swyddau crefyddol, ac a dueddent at fywydau o fyfyriad ymneillduedig. Tra yr oedd yr Iuddewon, ynte, wedi ymranu i bleidiau ymrysongar, ac yn ymddangosiadol mewn cyflwr o anwybodaeth ddygn o wir eg- wyddorion crefydd, ymddangosodd Iesu Grist yn eu mysg, i gyflawui ei genadwri ddwyfol, yr hon a gyfeiriai nid yn unig atynt hwy, ond yr holl hil ddynol. Yn ysgrifeniadau yr Efengyl- • Y mae y gair Crist yn dyfod o'r Groeg, ac yn arwy<ido yr Eneinioy;" y mae Mettiah, o*r Hebraeg, yn arwyddo yr wyr yr ydym wedi cael ein cynysgaethu â haneä mor hynod o gyflawn am enedigaeth a gwein- yddiadau cyhoeddus Crist, cyn gystal a'i farw- olaeth a'i ddyoddefaint, fel nad oes dim wedi ei adael i'w ddywedyd yma ar y pwngc ; a nyni a a\\ n heibio i adrodd yr egwyddorion y cyflawniad o ba rai oedd gwrthddrych ei genad- wri, ac i roddi brasluu hanesiol o'r gymdeithas gyffredinol hòno o gredinwyr, yr Eglwys, yr hon a awdurdododd efe i weithio allan ei ddy- benion. Tybier bod Cristionogaeth, neu grefydd Crist, wedi ei ddwyn i un eg wyddor ; yna gellid ei ddysgrifìo fel gwirionedd cyffredinol wedi ei gymhwyso at holl ddynolryw, a gallu dwyfol ac oll-gydlynol—egwyddor o gariad a brawd- oliaeth cyffredinol,heb olygu cenedl, oes, gradd, lliw, nac unrhyw amgylchiad allanol arall; yn fyr, cyfundraeth o ffydd ac ymarferiad i'r holl hil ddynol. Ni ddylai y fath grefydd, i fod mor gyffredinol gymhwysadwy, gynwys un daliad na defod a fyddai yn gofyn lleolaeth penodol. Gofynai Judeaeth ymweliad cylchol â'r Deml yn Jerusalem; gofyna Mahometaniaetb y cyf- lawniad o bererindodau i ddinasoedd penodoL yu Arabia, a sylwadaeth ar ffurfiau nad ydynt yn gymhwys ond i dilylanwadau dyddiol a thy- moraidd hinsawdd gynhes ; ceisia Hindwaeth ymolchiadau parhaus yn y Ganges, heblaw de- fodau lleol ereill—yr oll o ba rai a nodant y crefyddau hyn fel yn briodol yn unig i rai cenedloedd a gwledydd penodol, a heb fod yn g}rdweddol á dulliau bodolaeth yn holl ranau y byd. A gosod o'r neilldu bob ystyriaeth arall, y mae Cristionogaeth, trwy beidio cynwys un rhwymedigaeth na fedrid ei gyflawni mewn un rhan o'r byd gystal a'r lla.ll, neu gystal mewn un oes ag un arall, yn rhywbeth tra gwahanol oddi wrth grefyddau sydd naill ai yn amserol neu leol yn eu nodwedd. Yn y cymhwysad- wyedd cyffredinol a thragwyddol yma, ynte, y cawn un o nodebau mwyaf ardderehog crefydd Crist. Yr oedd lledaeniad yr egwyddor o gymwyn- asgarwch a chariad cyffredinol—gwrthwynebwr pob cynhyrfiad drwg a flyrnig—beth bynag a ellir ei ddywedyd yn ei gylch, yn newydd i'r bobl Iuddewaidd. Y mae yn wir y credent mewn uu Duw, Creawdwr pob dlni, a chyn