Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gf L AD G AR WR. 1 CAS GWR NA CHARO ' Y WLAD A'I MACO." Rhifyn 7. GORPHENHAF, 1843. PRIS 2 GEINIOli. HANES YREGLWYS. (Parhàd tudal. 58.) Dechreuoud aml lygriadau gwarthus yr Eg- lwys gyffroi sylw dynion meddylgar yn y ped- warycìd canrif ar ddeg, a gwnaethant amrywiol ymgei*iadau i ddwyn diwygiad, ond yn ofer. Y llygriadau ag yr achwyniad o'u plegid fwyaf, oeddbywyd gwaradwyddus amrai o'r offeiriaid, yn enwedig eiddo y rhestr mvnachaidd a char- dotol, y parch ofergoelus gwrthun a delid yn gyfíredin i greiriau (relics), awdurdod afradus y pab, a gwerthiantgollyngiadau (indulgences). Yr oeddygwaith o arddangos creiriau crefydd- ol, gyda golwg i gyffroi teimladau dyhewydus y credinwyr, wedi ymddirywio i gyfundraeth o dwyll hollol. " Gweddillion gwael maru oldeb, penglog, asgwrn, neu ddarn o asgwrn, dant, neu dafod, a addurnid âg aur ac arian, a ddod- id mewn creirfaon costfawr o'r gwaith goreu, ac a harddid â'r gemau mwyaf gwerthfawr. Dechreuodd yr Eglwysi yn fuan ymdrechu rhagori ar eu gilydd yn rhif ac amrywiaeth y trysorau dychymygol hyn, y rhai oeddent yn dwyn gwir gyfoeth i'w meddiannwyr. Dang- osid offeryuau croeshoeliad ein Hiachawdwr (o ba rai, fel y ffuantid, cafwyd hyd i'r bicell a'r groes yn wyrthiol), y dillad ag y rhwymid ef ynddynt yn ei fabandod, y beudy yn yr hwn y dodwyd ef, y llestri yn y rhai y tròdd y dwfr yn win yn y briodas-wledd, y bara a dorodd yn y swper olaf, ei ddülad am y rhai y darfu i'r milwyr fwrw coelbren. A'r fath oedd digywil- ydd-dra y twyll Rhufeinaidd, fel y dangosid cyf- ran o'r berth losgedig, o'r manna a ddaeth i lawr yn yr anialwch, o wialen Moses a dil mêl Samson, o bysgodyn Tobit, o laeth y fendigedig Fair, ac o waed ein Hiachawdwr!"—(South- Gallai y pellder chwerthinus i'r hwn yr oedd y gwaith o ddangos creiriau yn cael ei gario, ac hefyd yr hawliau dansoddol o oruchatiaeth ysbrydol ganypab, fod wedi eugoddef am ryw í'aint o amser yn hŵy ; ond darfu i'r gallu cyflawn o werthu rhyddyd am droseddiadau, ddeffroi synwyr cyffredin dynolryw. Leo X.,yr hwn oedd \n hynod am ei hoffder o orwychedd, a ddechreuodd y fasnach atgas yma. Martin Luther (1483-1546), mynach o urdd Augus- tine, yn Germani, a frawychwyd âg effeithiau y gyfundraeth, fe| yr ymddangosent yn ei gy- nulleidfa ef yn Wittemberg. " Y gwerthwr mwyaf hynod o ollyngiadau, o lawer, oedd Tet- zel, moesau yr hwn oedd yn cyfateb i'w ddi- gywilydd-dra. Yr oedd gan y dyn hwn dalent- au poblogaidd; yr oedd yn bregethwr parod, soniarus ; yr oedd yn bur adnabyddus o'r galon ddynol ; a'r manteision hyn, gyda'i urddas fel Uywydd o'i urdd ef, a'i nodent ef allan fel y person mwyaf cymhwys i werthu y gollyngiad- au hyn. Efe o ganlyniad a wnaed yn brif ddirprwywr, ac yr oedd ei lwyddiant yn y gwa- hanol drefydd ag yr ymwelodd â hwynt yn rhy- feddol. O'r pwlpit dywedai mai y gollyngiad- au oedd y rhai mwyaf arddunawl o radau Duw; yr oeddent wedi achub mwy o eneidiau nag ymdrechion yr holl Apostolion ; gwnaentiawn am bob pechod, pa mor ysgeler bynag ; yr oeddent yn effeithiol gyda golwg ar y trosedd- au dyfodol, cyn gystal a'r rhai oeddent wedi myned heibio ; gwnaent iawn am y meirw, cyn gystal a'r byw: a phwy bynag a oddefai i'w berthynasau aros yn y purdan, pan y gwnai ychydig arian eu gollwng yn rh>dd, oedd yn euog o'r pechod mwyaf. Trwy hyn diddymid edifeirwch yn gwbl: yr oedd gofid am bechod allan o'r cwestiwn, pan y gellid cael maddeuant ar delentu cymaint yn rhwyddach. Fe allai yr amheuid yr hanes bresenol pe na fyddai ei gwirionedd mewn effaith yn cael ei ganiatäu gan Babyddiou cyíoesog. Ond y mae daioni yn aml yn cael ei dynu allan o ddrygioui; a'r gwaith hwn o bregethu gollyngiadau oedd un o brit achosion y Diwygiad. Y mae lle i gredu ddarfod i'r holl gyfundraeth daraw Luther â braw o'r dechre cyntaf; ac, yn nglýn â'r an- nuwioldeb a ganfyddodd ynmhrifddinas y byd cristionogol, iddi gynhyrfu ei amheuon o barth- ed i anffaeledigrwydd yr awdurdod pabaidd. Yr oedd effeithiau y gollyngiadau bob dydd o flaen ei lygaid ; ac, fel un o gyffeswyr* awd- uredig pobl Wittemberg, canfyddai hwynt yn fwy amlwg nâ dynion ereill. Pan yn eis- tedd yn mrawdle penydiaeth, yr oedd yn rhy- feddu clywed y fath droseddau a gyflawnesid, a mwy fyth, nad oedd dim gofid yn cael ei deimlo * Dynion a^ oedd yn gwrandaw ar gyffesUdatt* ac yn rhagaodi (pretcribe) penydiau.