Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GWLADGARWR. CAS GWR NA CHARO ' Y WLAD A'I MACO." Rhifyn 11. TACHWEDD, 1843. Pris 2 GEINIOG. DTJWINYDDIAETH NATURIAETHOL. Isaac Watts a ddywed, " Ymdrechwch dder- byn rhyw addysg neu oleuni i'r meddwl oddi wrth bob peth a welwch neu a glywwch, oddi wrth bob peth a ddygwydd yn y bywyd dynol, oddi wrth bob peth oddi mewn i chwi neu oddi allan i chwu Tynwch i lawr ryw wybodaeth oddi wrth y cymylau, y ser, yr haul, y lleuad, a chylchdroadau y planedau. Cloddiwch a dygwch i fyny ryw fyfyrdodau gwerthfawr o ddyfnderoedd y ddaear, ac ymofynwch am dan- ynt trwy y dyfroedd mawrion. Tynwch allan ryw oleuni meddyliol o'r mwnau a'r meteloedd; o ryfeddodau natur yn mysg y llysiau a'r plan- igion, y coed a'r blodau. Dysgwch ryw wersi oddi wrth yr adar, a'r bwystfilod, a'r trychíilyn distadlaf. Darllenwch ddoethineb Duw, a'i ddyfais ryfeddol yn y cwbl: darllenwch ei Holl- alluogrwydd, ei ddaioni helaeth ac amrywiog, yn holl weithredoedd ei ddwylaw." Ac yn wir y mae yn rhan fawr o ddoethineb, dynu gwers oddi wrth bob peth a welwn o'n ham- gylch ac uwch ben, ac yn perthyn i'r by- dysawd i'r hwn yr ydym ninau yn perthyn. Nid oes un wers fwy pwysig nâ'r un a gyflwyn- ir gyda grym mwy neu lai gan bob dosbarth o eiddo natur; gwers a raid ein hargyhoeddi yn gryf o wirionedd bodolaeth Dnw oll-ddoeth ac aníeidrol dda, yr hwn ar y cyntaf oedd awdwr, ac a fu erioed er hyny yn gynalydd pob peth. Gallem ryfeddu i'r gwirionedd hwn gael ei ameu erioed, er bod o honom yn dra anwybod- us o'r profion trwy y rhai y cadarnhäwyd ef. Ac y mae yn dra theilwng o sylw, gan ei fod yn tueddu i ddangos dyfnder a seíÿdlogrwydd y syîfaen ar ba un y gorphwys bodolaeth Bod goruchel, doeth, a da, mai pa bellaf y gwthiwn ein darganfyddiadau, egluraf oll yr ymddengys y perífeithderau dwyfol. Y mae nid yn unig yn wir, ein bod, ar fras olwg, yn canfod yr angenrheidrwydd o gredu nas gallai byd terfyn- eàìg a chyfnewidiol, megys yr un y preswyliwn ynddo, fodoli heb gael ei gynyrchu, na bod yn awdwr ei fodolaeth ei hun ; ac y rhaid gan hyny fod, tu draw i gyraedd ein synwyrau, natur annibynol a digreedig, heb ddechread, heb derfynau, annghyfnewidiadwy, doeth, byw- iog, ac oll-dreiddiol; ond y mae hefyd yn sicr heb gael eu gwrthwynebu, ond yn cael eu cwbl gadarnháu gan y chwiliad mwyaf manwl i'r gwrthddrychau o fewn cylch ein golwg ; fel nad yw efe sydd yn treiddio ddyfnaf i ddirgelion, ond yn amlhà'u profion o'r gwirionedd tra add- urnawl a siriol hwnw, " yn ddiau bod Duw," yr hwn a wnaeth ac sydd yn llywodraethu y bydysawd. Y mae yn anhawdddeallypyìedd moesol tra rhyfedd hwnw ag sydd wedi tueddu rhestr penodol o ysgrifenwyr i ymwrthod â hwn ; canys addefer ond un haeriad, sef—ac nid hawdd ei ameu—lle bynag y bodola olion bwriad, wedi eu cynllunio gan ddoethineb, eu cyfarwyddo gan ddaioni, a'u cyflawni gan allu, rhaid bod bwriadydd doeth, da, a galluog wedi bodoli hefyd. Tybiwn ein bod wedi ein taflu ar ryw ynys hollol anhysbys i ni o'r blaen; yr ydym yn union yn myned i chwilio y golygfeydd sydd ynddi, mewn trefn i ganfod a oes ryw olion yn bodoli o breswylwyr dynol. I'r dyben i sicr- bau a oedd y fath fodau yn byw yno, ni fyddai yn angenrheidiol i ni eu gweled hwy. Yn ein crwydriadau gallem ddyfod o hyd i fwthyn bychan, yn meddu pob arwydd ei fod yn bre- swyliedig ; gallem weled wreiddiau y coed a gymynesid i'w ffurfio, ac argoelion ereill o bre- senoldeb diweddar dyn yn y fan ; a phe teimlem awydd i wybod rhyw beth ameunodweddiada'u harferion, cyn amlygu ein hunain iddynt, y mae yn dra thebygol y ceid digon o amlygrwydd i'n galluogi i ffurfio barn. Pe na fyddai y pre- swylfeydd a ddarganfuem ond rhyw leoedd af- luniaidd, neu ryw gaeadleoedd amddifad o gyf- leusderau bywyd gwareiddiedig, neu pe byddai y dodrefn, yr arfau, neu yr offerynau o'u mewn neu o'u hamgylch yn gyfrywag y mae cenedl- oedd barbaraidd yn gyffredin yn eu harfer, gall- em yn rhesymol gasglu ein bod wedi cael hyd i aneddle dyn anwar. Ond yn lle hyn, pe caem y tir amgylchynol wedi ei gloddio, ei amgau, a'i wrteithio, ac offerynau cyffredin amaethyddiaeth Ewropaidd, a dodrefn cyffredin tŷ Ewropaidd, casglem yn naturiol ein bod wedi cyraedd pre- swylfod ymfudwr o Ewrop, yr hwn a godasai fel hyn o'i amgylch briodoliaethau bywyd gwar- eiddiedig. Llawer mwy y gallai ychydig syl- wadau chwanegol ei amlygu i ni, a'n galluogi fod y golygon cyntaf yma nid yn unig yn aros | i ffurfio barn, yn meddu yr ymddangosiad o de-