Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GWLADGARWR. : CAS GWR NA CHARO ; Y WLAD A'I MACO." Rhifyn 12. RHAGFYR, 1843. PjRIS 2 GEINIOG. DÜWINYDDIAETH NATURIAETHOL. (farhâdtudal. 118.) ' PERTHYNASAU RHWNG DYN A NATUftlAETH. Yn ein rhifyn o'r blaen cymerasom olwg ar yr amgylchiadau o fwriad a welir wrth ystyried y planedau; yn awr cymerwn olwg ar rai o'r perthynasau a fodolant rhwng dyn a naturiaeth, ac ar y cydgyfaddasiad a amlygant. Nis gall un gwagle fod yn y cread, ac, o ganlyniad, nis gall un corph fod yn neillduedig ; y mae y cwbl, fwy neu lai, yn dylanwadu ar eu gilydd, ac ar rai o'r dylanwadau perthynasol hyn, yr ydym yn awr yn bwriadu traethu. Y mae dyn wedi ei rwymo gan ddeddfau attyniad wrth y ddaear ag y preswylia arni, a'i am- gylchu gan gyfrwng awyrol ag sydd yn alluog i arferyd rhai dylanwadau arno ; y mae y dy- lanwadau hyn wedi eu hagweddu gan y Gallu Anfeidrol i íbd yn wasarmethgar i'w angenion, a'u bwriadu i fod yn gyfaddasedig nid yn unig i'w eisieu ef, ond hefyd i eiddo pob peth byw, pa un bynag ai llysieuyn neu anifail, ag sydd yn bodoli. Y mae yr awyrgylch sydd yn ein hamgylchu, mewn canlyniad i'w eangder, yn gwasgu ar y corph dynol gyda grym cyfartal i o gylch 33,60U o bwysi. Oud pa fodd nad ydyrn yn suddo ac yn trengu o dan y pwysi dirfawr yma ? Trwy wrthweithrediad yr hyliíàu hydwyth (elastic fìuids) sydd yn gynwysedig yn ein cyrph y galluogir ni i gynal pwysau mor anferthol. Yma y canfyddwn gyd-berthynas- iad rhyngom ni a'r awyrgylch, nas gellir ei attal heb niweidio y naill a'r llall. Golygwn fod y pwysau hyn yn cael eu tynu ymaith oddi arnom, beth fyddai y canlyniad ? Ni fyddai ddim attaliad ar hylediad (expansibility) yr hylifau a gynwysir o'n mewn; ymledent, rhwygent y sylwedd a'u cynwysant, a dinystr- ient y dyn. Gosoder unrhyw anifail o dan dderbyniedydd awyr-sugnydd, a chymerer ym- aith yr awyr, y mae yr effaith yn dra amlwg. Un o achosion yr anesmwythder a deimlir pau ar ben mynydd tra uchel yw, fod yr awyr yn deneuach, ac nad ydyw yn gwasgu gymaint ar y corph ; a hyn sydd yn peri i'r gwaed ddylifo o glustiau, llygaid, a genau rhai yn y gyfryw sefyllfa. Yr un achos sydd i effaith craffinai (cupping glass) pan y gosodir ef ar y croen. Teimlwn fwy neu lai effeithiau cyfnewidiad disymwth yn ngwasgiad yr awyrgylch ; ond eto y mae ei wasgiad wedi ei gyfaddasu yn dda at angenion dyn; pe buasai yn fwy, buasai ein grym megys yn cael ei lethu gan faich annaturiol ; a phe llai, ni fuasai yn cael ei gy- nal yn ddigonol. Buasai y synwyrau o glywed ac arogli hefyd, y rhai sydd yn dibynu am eu perffeithrwydd ar wasgiad canolig o'r awyr, naill ai yn anoddeíol grafîneu ddiffygiol. Eto, y mae pwysau yr awyrgylch yn effeithio yn fawr ar yr hinsawdd. Os oes cyfran benodol o'r awyr yn cynwys cyfran benodol o wres, y mae yn amlwg y rhaid ei fod yn gyfartal daen- edig trwyddo ; ac os cynwysir yr un awyr mewn llai o le, neu osbydd y gwasgiad yn fwy, y gwres a fwyheir mewn cyfartalwch. Yr un modd, os lleiheir y gwasgiad, yr awyr a ymeanga, a'r gwres a ymledaena g3'dag ef dros fwy o le. Trwy wasgu yr awyr, gallwn wneyd i'r gwres gydgrynhoi gymaint fel ag i beri iddo danio. Y mae y dylanwad yma o eiddo yr awyr ar y corph, mor gyffredinol a'r blaenaf, a chyfaddasiad y naill i'r llall mor barhaus. Os eithrir rhai gwledydd yn agos i'r cyhydedd, ac yno ddim ond yn y tymor poeth a chanol dydd, y mae tymheredd yr awyrgylch bob amser yn îs ua'r eiddo dyn; a thrwy fod gwres bob amser yn tueddu at gyd- bwysedd, y mae yn eglur fod gwres yn cael ei dyuu yn barhaus oddi wrth y corph. Yn awr, yr ydym ni wedi ein ffurfio yn y fath fodd fel ag i ganiatau yr ymadawiad cyffredinol yma à gwres; ac yn wir, pe'i attelidefyn ddisym- wth, neu ei lleiheid, yn fuan y trengem. Eto, pe mwyheid yr ymadawiad, neu pe âi yn mlaen yn gyflymach nag y gallai yr egwyddor fywiol ei adferu yn ei le, ein tymheredd a suddai, ein hylifau a'n hireiddiwch a rewent, ac yn y sef- yllfa hon, hefyd, buan y trengem. Ond y mae canolraddau rhwng y ddau eithafedd yma; ac fel y dywedasom o'r blaen, y mae ein cyfan- soddiad ni wedi ei gyfaddasu i'r rhai hyny. Y mae pob corph peiriannol yn alluog i wrth_ sefyll, i raddau helaeth, ac i agweddu, gweith- rediad gwres ac oerfel; yn wir, y mae yr eg_ wyddor hon o hunangadwraeth mor amlwg yn_ ddynt, fel ag yr edrychwyd arni, o gyfnod tra boreol,fel y priodoledd mwyaf hanfodoli fywy