Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Stedmerttdi Cyf. II. 10NAWR, 1886. Rhif 13. Y LLYTHYR AT YE EPHESIAID. GAN Y PAECH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOE. RHIF XIII. " Fel yn ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhoi ynghyd n Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo ef." Y mab yr adnod hon yn ateb dau ofyniad sydd yn codi yn naturiol oddiar yr adnod flaenorol. 1. Beth yw " dirgelwch ei ewyllys ? " Yr ateb ydyw, " Crynhoi ynghyd yn Nghrist." 2. Gan iddo hysbysu y dirgelwch hwn " yn ol ei arfaeth," neu ei fwriad, Beth oedd amcan y bwriad, beth oedd ganddo mewn golwg wrth hysbysu ? Fe hysbysodd hyn er mwyn i'r datguddiad o hono fod yn gyflawn. " Fel yn ngoruch- wyliaeth cyflawnder yr amseroedd." Yr oeddyn anghyflawn hydyn hyn, a buasai yn anghyflawn eto heb hyn. Person yr Iesu oedd y datguddiad cyflawn o Dduw. Tuag ato ef yr oedd Duw yn cyfeirio ac yn llygadu yn yr holl gysgodaù, prophwydoliaethau, a gwahanol amgylchiadau y byd. Rhesymol i ninau ofyn i Dduw, " Dal fy llygaid, dal heb wyro " ar yr Iesu, oherwydd fe ddaliodd ef ei lygad heb wyro arno am fìloedd o flynyddoedd, ac fe gyfeiriodd lygaid eraill ato hefyd. Gorfoledd gan Dduw oedd gweled dydd Crist; ac Efe a'i gwelodd ac a lawenychodd ; a mwy na hyny, fe gyfeiriodd lygad Abraham ato hefyd, nes i Abraham gyfranogi o orfoledd Duw. Y mae yr adnod o'r blaen yn dweyd i Dduw hysbysu yn ol ei fwriad ; yr adnod hon yn dweyd. mai yr hyn a hysbys- odd oedd y nod yn ngolwg ei arfaeth trwy yr holl oesoedd. Iaith ei arfaeth o'r dechreuad oedd, " Nid fel pe bawn wedi cyraedd fy amcan eisoes " Pan y codwyd Moses yn arweinydd, a Dafydd yn frenin, a'r bobl yn ymffrostio yn eu harweinwyr : " Nid fel pe bawn wedi cyraedd fy amcan eisoes," medd yr Arfaeth, " dilyn yr wyf." " Nid wyf yn bwrw ddarfod i mi gael gafael, ond un peth, yr wyf yn ymestyn, yr wyf yn cyrchu at y nod," a'r nod hwnw yw Crist. Dilyn, ymestyn, cyrchu at yr Iesu yr oedd yr Arfaetb, nes ei gyrhaeddyd yn nghyflawnder yr amseroedd. Crynhoi ynghyd yn Nghrist; ynddo, nid dano ; yn ei berson nid dan ei awdurdod : ac i roddi pwys ar y person yn yr hwn y crynhoir pob peth, fe ail ddywedir " ynddo ef." Yn awr, pa bethau a grynhoir ? Yn ein dull cyffredin o siarad, fe ddefnyddir pethau a phersonau mewn cyferbyniad i'w gilydd, er nad bob amser. A ydyw pethau yn y nefoedd yn cynwys angylẁn, y rhai sydd bersonau ? Ac a ydyw pethau ar y ddaear yn cynwys dynion, y rhai hefyd sydd bersonau ? A ydyw y gair pethau yn cynwys personau ynte yn eu cau allan ? (1.) Y mae yn bosibl fod y gair pethau yn cynwys personau, angylion a dynion. Ỳ mae lliaws o adnodau yn y Beibl yn y