Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

JMmtrÄ Cyf. III. MEHEFIN, 1887. Riiif 30 Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CIIARLES DAYIES, M.A., BANGOR RHIF XXX. " Ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef, ac a'i rhoddes ef yn ben uwch- law pob peth i'r Ëglwys." Eph. i. 23. Dengys y rhan flaenaf o'r adnocl lywodraeth gyífredinol Crist ar bob peth. Dengys y rhan olaf fod ganddo lywodraeth o natur Ärall—0 natur uwch—sef llywodraeth neillduol ar ei eglwys. Y raae llywodraeth Crist ar bob peth i'w wahaniaethu oddiwrth ei iyw- •odraeth ar ei eglwys, am fod ei bsrthynas â'r eglwys yn wahanol i'w berthynas â phob peth arall—yn berthynas pen â chorff. Ar yr un pryd, y mae llywodiaeth Crist ar bob peth yn gysylltiedig a'i lywodraeth ar ei ■eglwys, am fod y ddwy wedi eu rhoddi yn llaw yr un person i'w gweini i gyrhaedd yr un amcanion. Wrth "bob peth " y meddylir pob peth •crëedig, fel y gwelir yn Heb. ii. 8. " Ni adawodd efe ddim heb ddar- ostwng iddo." Y mae y gair "eglwys" yn haeddu sylw neillduol. Gan fod Duw yn «ìwyn pethau newydd i'r byd yr oedd yn rhaid iddo un ai gwneuthur geiriau newyddion i'w trosglwyddo, neu daflu ystyr newydd i eiriau oedd mewn arferiad o'r blaen. Er, feallai, y ceir esiamplau o'r dull cyntaf; yr olaf yw y mwyaf arferol, ac y mae y gair "eglwys" yn esiampl o'r dull liwn. Ystyr gyntefig y gair yw unrhyw gynulliad o bobl wedi eu galw jnghyd oddiwrth eraill, ac fe ddefnyddir y gair ar un achlysur, ac ar un jn unig, yn y Testament Newydd, yn yr ystyr gyffredinol yma ; ond fe'i «yfieithir yno i'r Cymraeg yn " gynulleidfa," (Act. xix. 32—39, 41). Nid cynulleidfa wedi dyfod ynghyd ar ddamwain, neu trwy ddigwyddiad, ond wedi dyfod trwy alwad ydoedd. " Y rhai a alwodd efe " (adn. 25), a gellid ei galw yn " eglwys Demetrius." Fe ddefnyddir y gair eglwys yn y Testament Newydd am genedl Israel)—"yn nghanol yr eglwys j'th folaf di " (Heb. ii. 12). Erbyn troi i Lyfr y Salmau " cynulleidfa "