Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

%MmmÛ&. Cyf. IV. MAI, 1888. Hhif 41. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHAItLES DAYIES, M.A., BANGOB. EHIF XLI. * Canys ei waith ef ydym, wedi e;n creu yn Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a rag-ddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt —Eph ii. 10. Y mâe yr efengyl mor ddwyfol, fel y mae elfenau moesol cymeriad Duw yn egwyddorion bywiol ynddi hithau. Felly y mae yn rhaid iddi fod, os person yr Iesu yw bywyd yr efengyl, ac os yw holl gyfìawnder y Duwdod yn preswylio ynddo yn gorfforol. Elfenau mawrion cymeriad Duw yw sancteiddrwydd a chariad, fel y dy- wedodd Ioan, wedi ei weled â llygaid calon bur, " Goleuni yw Duw," " Duw cariad yw." Y mae sancteiddrwydd a chariad mor hanfodol ynddo, fel y byddai tybied ei fod heb y naill neu y llall, iv. 8). Ac fe fyddai meddwl am y Bôd Mawr gan anghofio ei sancteiddrwydd a'i gariad yn feddwl am eilun, ac nid am Dduw; ac fe fyddai addoli y fath 1111 yn eilun-addoliaeth. Mor hanfodoí ag y mae sancteiddrw}Tdd a chariad i natur Duw, y maent hefyd i natur yr efengyl. Nid yw yn haeddu yr enw efengyl o gwbl os gwedir ei sanceiddrwydd neu ei gras; newydd-beth, ac nid " newyddion da " a fyddai. Gellir camgymeryd am lawer 0 bethau yn dal perthynas â'r efengyl; ie, y mae yr amrywiaeth barn geir ymhlith Cristionogion am rai pethau yn dangos fod rhai o honynt yn camgymeryd; ac eto, ymorphwys arni a chael eu bywyd trwyddi, am nad yw y camgymeriad yn cyffwrdd â'i hanfod; ond gwadwn ei sancteiddrwydd neu ei gras, nid yw yn efeng}rl i ni, ac nis gallwn gael ein cadw trwyddi. Enw o efengyl heb ei hanfod fyddai, ac nis gall yr enw gadw neb. Fe wedir yr angen am ras, pan y mae yr enaid yn tybied neu yn teimlo y gall haeddu bywyd trwy ei weithredoedd neu ei deimladau ei hun. Fe wédir ei sancteiddrwydd, pan y mae dyn yn pechu, gan gyfrif y gall ar ol pechn, dderbyn maddeuant, ond gofyn am dano: j)an y mae