Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SMmwgái Cyf. IV. GORPHENAF, 1888. Rhif 43. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PAPvCH. D. CHARLES DAVIES, M.A., BANGOR. EHIF XLIII. " Eich bod chwi y pryd hwnw heb Grist, wedi eich dieithrio oddiwrth wlad- wriaeth Israel, ac yn estroniaid oddiwrth araodau yr addewid, heh obaith genych, ac heb Dduw yn y byd." Eph. ii. 12. Amcan yr apostol wrth enwi y gwahanol bethau sydd yn yr adnod hon oedd dwyn ar gof i'r cenhedloedd crediniol yn eglw^-s Ephesus yr hyn oeddynt cyn eu dychwelyd. Yr oedd cofio yr hyn oeddynt unwaith yn fforcìd effeithiol i'w cadw mewn ysbryd diolchgar i Dduw am y cyfnewidiad a wnaed arnynt. Fe fydd yr iaith hon yn deilwng i'w dweyd wrth dduwiolion byth yn y nef,—" Cofìwch eich bod chwi y pryd hwnw" &c. Fe fydd yn beth i'w gofio byth ein bod nnwaith yn bechaduriaid. Ac fel y bydd cof yn elfen yn nefoedd Cristion ; felly fe fydd yn elfen yn uffern Satan i gofio ei fod ef ryw " bryd hwnw " mewn rhyw ddedwwddwch a gollwyd ganddo. O ! am gael euogrwydd cyflwr a llygredd natur yn bwnc o gof, ac nid yn bwnc o brofiad i dragwyddoldeb. Yr oedd y cenhedloedd y pryd hwnw heb Grist,—ar wahân oddiwrth Grist. Hyn yw meddwl y gair heb yn fynych yn y Beibl:—" hebddo ef," sef ar wahân oddiwrtho. (Ioan i. o.) : " hebof fi," sef ar wahan oddiwrthyf fi (Ioan xv. 5.). Y gair cyferbyniol )m yr adnod nesaf ydyw ;í yn Nghrist," mewn undeb â Christ; felly ìieh yw ar wahân oddi- wrth Grist. Y mae yr holl adnodau ar ol y geiriau " heb Grist," yn cael eu cynwys yn yr adnod nesaf yn y gair " pell,"—" Y rhai oeddych gynt ymhell." Gan fod rhan olaf yr adned yn eglurhad ar bellder oddiwrth Dduw, cynwysa yr adnod ddarluniad o bellder pechadur oddiwrth Dduw pan ar wahân oddiwrth Grist. Er fod cyfeiriad cyntaf y geiriau at genhedloedd paganaidd na chlywsant am dauo, y maent mor briodol yn ddarluniad o genhedloedd gwareiddiedig sydd wedi clywed, ond heb ei dderbyn yn Waredwr. Y mae y darlun ar yr olwg gyntaf yn cynwys pedwar o bethau. Ond wrth sylwi yn fanwl fe wrelir nad ydynt ond dau beth wedi eu gosod mewn dwy ffurf;—" wedi eu dieithro," ac"yn estroniaid" yw y ddau mewnun ffurf; "heb obaith/' ac