Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

JWmemdd. Cyf. IV. HYDREF, 1888. Rhif 46. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. RHIF XLVI. Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatod- odd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni; ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchymynion mewn ordeiniadau, fel y creai y ddau ynddo ei hun yn un dyn newydd, gan w»euthur heddwch."—Eph. ii. 14, 15. Fe ddatododd ac a ddirymodd: yn y Saesneg fe ddywedir, fe ddatododd gan ddirymu. Yr un peth sydd yn cael ei osod allan mewn dwy ífurf. Y dystiolaeth yma ydyw i Grist ddirymu rhyw ddeddf, a bod y dirymiad hwnw yn dal rhyw gysylltiad â'r ffaith fod Crist yn dangnefedd rhwng Duw a dynion. Ni a gymerwn ein safle ar y ddeddf hono. Y mae ei hanes yma yn cael ei awgrymu mewn byr eiriau. Y mae hanes dyn yn cynwys ei enedigaeth, ei waith—yn ei ddiífygion a'i ragoriaethau, ynghyd â'i farwolaeth. Felly y mae hanes y ddeddf hon yn y testyn—yn ei pherthynas â Duw, â dynion, ac â Christ. Yn ei pherthynas â Duw gwelir ei dechreuad; â dynion, ei gwaith; ac â Christ, ei diwedd. Ac y mae yr olaf yn rhagori ar y ddwy gyntaf. Yn ei pherthynas â Duw fe'i gelwir yn " ddeddf gorchymynion mewn ordeiniadau." Nid am i Dduw ei gorchymyn, ond am mai gorchymyn Duw roddodd fod iddi. Nid y ddeddf foesol oedd hon. Er mai trwy orchymynion yr amlygwyd hono, eto yr oedd yn bod cyn ei gorchymyn, ac am ei bod y gorchymynwyd hi. Ei sail oedd ei chyfiawnder hanfodol ei hun, ac nid gorchymynion. Ni ddirymwyd y ddeddf foesol; nid oedd bosibl ei dirymu; nid oedd Crist yn ei dirymu wrth ei chyf- lawni. Y mae mewn cymaint o rym ac awdurdod heddyw ag erioed: mewn cymaint o rym ar ol ei boddloni gan Iawn y groes, ag y buasai pe na roddasid Iawn. Nid deddf gorchymynion ydyw, ond deddf cyfiawnder; ac ni chafodd ei dirymu pan y cafodd ei chyflawni. Y ddeddf gysgodol oedd hon, a gorchymyn Duw oedd ei sail; ei orchymyn roddodd fod iddi. Am i Dduw yn ei ddoeth- ineb weled yn dd% y gorchymynwyd hi; ac am iddo ei gorchymyn